mater yn y fan y mae o... a chyn hir, mi rydw i yn mynd i hel enwau i gael anerchiad a thysteb iddo fo..
WILLIAM PRICHARD. Oes rhywun wedi bod yn siarad hefog o?
AZARIAH EVANS. Do, mi fum i, ond soniais i air am i helbul o, wrth gwrs. Fedrwn i ddim, wir. 'Roedd y syniad fod un o ddynion ifanc goleua'r wlad yma— dyn wedi cael manteision addysg penna'r oes, dyn sydd yn mynd i'n helpu ni i ymladd yn erbyn anwybodaeth a drygioni; . . . roedd meddwl fod hogyn fel yna wedi bod yn y carchar cyffredin yn Nhre'rcaerau yn y ngyrru i o ngho.
DAFYDD DAFIS. Ie.—'r ffordd galed," chwedl yr hen lyfr ffordd y troseddwr sydd galed."
HUW BENNET. Hogyn wedi i fagu yn annwyl ac yn ofalus gan i dad a'i fam a'i nain.... (Yn torri i wylo.)
MR. HUMPHREYS. Twt, twt! Sentiment noeth— dydech chi'n ddim ond lwmp o deimlad, Huw Bennet.
WILLIAM PRICHARD. Eh? Ydi o'n ymddangos yn edifeiriol, eh? Eh?
MR. HUMPHREYS. Nag ydi. Mae o mor ffroenuchel ag erioed.
HUW BENNET. Beth sydd eisio iddo fo fod yn edifeiriol? Wnaeth yr hogyn ddim drwg.
AZARIAH EVANS. Naddo.
WILLIAM PRICHARD (hen ddyn bach cneclyd teneu). Wel, chi wyddoch i gyd na fydda i byth yn gwthio fy syniadau ar neb, ond rhaid i mi ddeud y mod i'n cyd-weld â Mr. Humphreys yma, ynte? . . . "BALCHTER O FLAEN CWYMP," ynte? meddai'r hen bobol. Eh? Felly y gwelis i hi erioed. Roedd o'n deud wrthon ni yn yn gwyneba yn bod ni'n gul ac yn rhagfarnllyd, am yn bod ni'n gwrthod rhuthro i neud y petha mawr yr oedd o am neud. Ond dyna my lord wedi bod yn y jel,—a ninnau'n dal yn ein parch o hyd.
HUW BENNET. Parch gythraul!—dyna chi yn y ngyrru i i dyngu mewn tŷ capel. Dyma'n ffordd ni yng Nghymru bob amser, ffordd William Prichard y London. Os bydd dyn i fyny, pob help iddo i fynd yn