VAUGHAN. Twt-twt—dos adre; 'rwyt ti'n mynd yr un ffordd a dy fam, faswn i'n meddwl . . .
ANN. Mi ddeuda wrthoch chi, Mr. Vaughan.. Wrth fynd i'r Plâs i wnio, pan oedd hi'n wraig weddw ydech chi'n cofio'r sgweier a chitha'n cael hwyl wrth i gneud hi'n feddw a'i gweld hi'n ymlusgo adre drwy'r eira? y greadures dlawd! Dyna un enaid yrsoch chi a'r sgweier i uffern o'ch blaen . . . ac oh, dyma chi yn helpu'r sgweier yn i waith aflan i yrru enaid arall ar goll eto . . . . Na wnewch byth, mi rhwystra i chi, . . . yn enw'r nefoedd!
WILLIAM PRICHARD. Taw! siarad yn barchus wrth dy well, y ffolog iti.
ANN. Mi fum i ar fy nglinia o flaen y ngwell—o flaen y sgweier—fis yn ol yn erfyn arno drugarhau wrth Emrys—do, yn y lludw a'r clai o'i flaen o—yn erfyn arno fadda i Emrys, er fy mwyn i, er mwyn merch y ddynes feddw fydda'r sgweier a Mr. Vaughan yn i chael i'r tŷ i neud sport iddyn nhw, pan fydda'r llwynogod yn brin,—ac mi troes fi dros y drws, a bygwth y cŵn ar f'ol i. 'Rydw i'n dod yma eto ar yr un neges, at flaenoriaid y bobl—y chi, Wiliam Prichard, dorrodd mam o'r seiat
WILLIAM PRICHARD. Ie, ond rwyt ti'n bryderus iawn ynghylch mab dy feistr, y ngeneth i. Beth ydi'r mater, eh? Mae na ryw reswm, hi, hi!
ANN. Oes: 'rydw i wedi byw a meddwl llawer. Dwy ar hugain fydda i G'lan Gaea nesaf, ond 'rydw i wedi byw llawer mwy na hynny mewn cyni, a diodde, a gwarth. Mi wn i beth ydi colli pob gola, a thywyllu pob ffordd: mi wn i am lyn cysgod angau a'r rhai sy'n cerdded drwyddo; mi wn i beth ydi gwaeddi'r nos am y bore, a'r bore am y nos—am hynny, 'rydw i'n erfyn arnoch chi gadw un arall . . . rhag mynd at y mwyafrif.
WILLIAM PRICHARD. Wel, mae'n rhaid i mi fynd adre, beth bynnag. Mae o wedi i gynnig a'i eilio yn bod ni'n diarddel Emrys Williams. Os ydi rhywun yn meddwl fod gan y sgweier rywbeth i neud â'r peth, mae o'n methu, a chan fod teulu'r