Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beddau'r Proffwydi – W. J. Gruffydd.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Sgellog wedi mynnu dod yma i gael brifo'u teimlada, arnyn nhw mae'r bai. Rydw i'n gofyn i chi roi'r peth i bleidlais, Mr. Evans.

AZARIAH EVANS. Wel, pawb o blaid? (William Prichard, Dafydd Dafis, a Mr. Humphreys yn codi dwylo.) Yn erbyn? (Huw Bennet a'r Gweinidog yn codi dwylo.) Wel, dyna hi felly . . . . Mae o i'w ddiarddel; does gen i ddim mwy i ddeud . . . heblaw hyn. Yr ydw i'n dymuno ymddiswyddo o'r eglwys yma, ac yn mynd oddiyma.

WILLIAM PRICHARD. I ble, hi—hi?

AZARIAH EVANS. I siarad hefo pobol y tafarna a'r cloddia, y publicanod a'r pechaduriaid . . . ond Duw a f'helpo i, . . . rydw i'n rhy hen, rhy hen . . . Wel, nos da . . . (Wrth Emrys.) Mi ddo i'r Sgellog yfory.

HUW BENNET. Rydw inna'n dwad hefo chi—at y publicanod. (Yn gafael yn ei het ac yn mynd allan.)

EMRYS (ar eu hol). Cofiwch gadw'ch blâs, beth bynnag . . . "Chwychwi yw halen y ddaear." (Pawb arall yn symud allan. Emrys yn cysuro'i rieni, ac yn gwthio Ann allan gyda hwy.) Miss Vaughan!

AGNES. Wel? (Yn dod yn ol.)

EMRYS. Yr ydech chi'n cofio beth ddeudis i wrthoch chi fis neu ddau yn ol,—a be ddywedsoch chitha wrtha inna. Wel rydech chi wedi bod yn bur ddieithr i mi byth er hynny—a mae hynny'n ddigon naturiol. Hwyrach ych bod chi'n synnu fy mod i'n cymryd yr holl gywilydd sydd wedi disgyn arna i mor ddidaro, a mod i medru cadw nhempar hefo'ch tad. . . .. Wel, mae pob angor wedi gollwng ond un, ond mae hwnnw'n dal hyd yn hyn. Y chi fedr ddweud, a neb arall, sut y mae hi i fod.

AGNES. Dydw i ddim yn ych deall chi, Mr. Williams. Mae'n rhaid imi fynd,—mae Pa-pa 'n disgwyl.