Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beddau'r Proffwydi – W. J. Gruffydd.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod yn anlwcus. O ran hynny, dyna ydi pechod pawb, ynte Mistar? Oni bae am y trethi a'r arian sy'n yn cadw ni'n fyw, mi fuasan ni wedi marw i gyd ers blynydd oedd, ond fasan ni, bobol? . . . Ond chawn ni ddim. . . . Os treiwch chi farw, mae nhw'n ych gyrru chi i'r jêl, ac wedyn i'r workws—a dyna lle'r ydyn ni wedi marw i'r byd ag i ai'n hunain. . . . "Lle mae Twm Huws druan?" medda rhywun. . . "Yn y workws," medda pobol, fel tasa'n nhw'n son am rywun yn uffern . . . . Does na ddim ond dau yn gwbod lle'r ydyn ni'n iawn.

UN ARALL O'R TLODION. Pa ddau?

TWM HUWS. Duw . . . a'r diawl. Felly y bydda i yn i gweld hi, beth bynnag.

MEISTR. O, felly wir. Beth wnaeth i ti ddwad yma, os gwn i, Mr. Athronydd?

TWM HUWS. O—drifftio . . . a charedigrwydd pobol barchus. (Wrtho'i hun.) Mi fuo gen i wraig a thri o blant, a thŷ a gardd, a Mari a Jane Liza a Twm bach, a gwraig a thŷ a gardd . . . do, rywdro. Lle mae nhw heno? Mistar, lle mae nhw heno?

MEISTR. Ie lle mae nhw heno? da y gelli di ofyn.

TWM HUWS. Mae'r wraig a'r plant . . . mewn lle na chewch chi byth fynd yno, mistar, . . . chewch CHI byth weld Twm bach. Mi werthodd y guardians y tŷ a'r ardd a'r mochyn i dalu costa'r claddu a bil y doctor . . ..a nghadw inna yn fy salwch pan gollis i fy ngwaith. Caredigrwydd pobol, fel y deudis i, gyrrodd fi yma. Fedra pobol grefyddol garedig y pentre ddim diodda gweld hen ddyn afiach hanner call oedd wedi bod yn rhywun parchus rywdro, yn dihoeni o flaen i llygaid nhw . . . a mi ddarun y ngyrru i i'r workws . . . . Roedd i clonna nhw'n rhy garedig i feddwl i ddal o yn y pentre o flaen i golwg bob dydd. . . . A mi bwriwyd fi i'r môr o angho hwnnw sy'r tu ol i eneidia pobol barchus . . . sef y workws..

MEISTR. Siarad ti'n fwy parchus, ac yn debycach i Gristion, y ngwas i, neu mi gei di fod heb dy faco am wythnos.

TWM HUWS. O'r gora, syr . . . dim ods. Rydw i'n gorfod gneud heb lawer o betha, a mi wna heb hwnnw