hefyd gydag amynedd. (Wrtho'i hun.) Mi fydda Jane Liza yn dwad âg owns o faco neis imi o'r dre ystalwm . . . a Twm bach yn i ddwyn o o'r papur. . . . Wel, wel, mae petha wedi newid, ond ydyn nhw?
(Drws o'r neuadd yn agoryd, a'r porthor yn ymddangos.)
PORTHOR. Casual, syr, wrth y drws.
MEISTR. O, Cymro ynte Sais?
PORTHOR. Cymro, syr.
MEISTR. Wyt ti wedi i holi o? Ydi o'n lân, a sobor?
PORTHOR. Wel, mae o'n eitha sobor, ond wn i ddim beth am i lân o . . . ond does fawr air i gael gynno fo . . . un anodd i drin, mi dyffeia i o, syr.
MEISTR. Hitia befo, mi trinia i o. Ydi o'n dallt be raid iddo fod neud cyn mynd odd ma?
PORTHOR. Ydi, syr.
MEISTR. Rho fo yn y Casual Ward nes ca i ddwad i weld o . . . nage, aros!—tyrd â fo yma, iddo fo gael bwyd gynta.
(Porthor yn myned allan.)
TWM HUWS (wrth un arall o'r tilodion). Fyddan nhw'n golchi rhai'n dwad yma fel hyn am noson, dwad?
UN ARALL O'R TLODION. Byddan, debig iawn—a golchfa iawn fyddan nhw'n gael hefyd. Y tro cynta y dois i yma, fel casual y dois i . . . a wedyn, mi ddrifftis fel titha.
TWM HUWS. Mi fasa rhywun yn meddwl i bod NHW, y bobol fawr,—y guardians—yn lân ofnatsan wrth i gweld nhw mor byrticlar hefo ni.
UN ARALL O'R TLODION. Dydyn nhw ddim, ar fend i—ddim chwarter cyn laned a gweithiwr. . . . Mi wn i am be rydw i'n siarad. Ond fel yna mae hi o hyd . . . petha i'w gwthio ar y bobol dlodion ydi'r rhin— wedda mawr i gid—glendid a dirwest a phetha felly.