Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beddau'r Proffwydi – W. J. Gruffydd.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O, mi fum i ar i salach o. Rydw i wedi bod yn bwyta skilly.[1]

TWM Huws. Wel, wel, frawd bach! Rydech chitha yn un o'r rhai anlwcus felly. Lle buoch chi yn y jêl, mor hy a gofyn?

EMRYS. Yma—yn Nhre'rcaerau.

TWM HUWS. Dwgyd?

EMRYS. Nage.

TWM HUWS. Curo plisman?

EMRYS. Nage—breuddwydio . . . proffwydo. . . a thorri'r tresi, bwrw'r cylchau . . . . Fedra i ddim bwyta hwn . . . a ches i ddim tamaid er y bore.

TWM HUWS. Druan ohonoch chi! (Yn sibrwd yn ddistaw.) Mae gen i damaid o gig yn y mhoced . . . cymrwch o, cymrwch o.

EMRYS. Diolch, frawd bach. Rydech chi wedi methu cyrraedd pen ych siwrna, mi wela.

TWM HUWS. Pen y siwrna?

EMRYS. Ie . . . y cythraul. Dyna lle'r ydw i'n mynd. Rydw i bron wedi cyrraedd.

TWM HUWS. Rydw i yn deall . . . Beth ydi'ch amcan chi?

EMRYS. Mae arna i eisio cledu f'hunan ddigon . . . (yn codi ar ei draed) . . . i ladd dau neu dri o ddynion . . . i gyrru nhw—(yn pwyntio i'r llawr)—i lawr o mlaen. Mi fyddai'n fodlon wedyn.

TWM HUWS. Pwy sy arnoch chi eisio'i ladd, frawd?

EMRYS (yn tynnu papur o'i logell). Dyma nhw— rydw i wedi sgrifennu 'i henwa nhw rhag imi anghofio. William Prichard, London House, Llanfesach, merchant tailor; Thomas Humphreys, Llanfesach, schoolmaster; John Vaughan, yr Hafod, Llanddyfi, gentleman farmer; David Davies

UN ARALL O'R TLODION. Hist! Hist! Dyma'r guardians yn dwad.

(Y drws ar y chwith yn agor. William Prichard a Mr. Vaughan yn dyfod i fewn gyda'r Meistr.)

MEISTR. Ie, foneddigion,—dyma nhw'r teulu—y nheulu i fydda i yn i galw nhw. (Wrth y tlodion.)

  1. Cawl tenau o flawd ceirch wedi ei gymysgu â dŵr. Yn cael ei weini mewn carchardai a llongau cosb yn y 19G