fi'n methu mynd i'r cythraul gynna . . . pan faddeuais i William Prichard a Mr. Vaughan. Fedrai neud dim. . . Mae Duw a'r cythraul wedi ngwrthod i.
ANN. Ddaru chi erioed feddwl mai wedi bod yn cerdded y gors gyntaf—Cors Anobaith yn nhaith y pererin yr ydech chi yn ystod y pedair blynedd yma? . . . dysgu'r ffordd?
EMRYS. Naddo, wir..
ANN. Gaiff Cristiana a Christion ddringo o'r gors hefo'i gilydd y tro yma?
EMRYS (yn chwerthin). Ha, ha! rydech chi wedi dysgu donioldeb yn rhywle. Beth ydi'r cam nesa meddwch chi?
ANN. Hwn! (Yn taflu'r pistol drwy'r ffenestr.)
EMRYS. Beth wedyn?
ANN. Rywbeth fynnoch—ond adawai i monoch chi byth eto. Mi ddoi hefo'ch chi'n forwyn i lanhau'ch sgidia chi, os na chymrwch fi yn wraig . . . a chymrwch chi mohonai, mi wn, wedi clywed f'hanes i, a sut y dois i i'r workws yma.
EMRYS. Ydi o'n ddrwg?
ANN. Ydi.
EMRYS. Drwg iawn?
ANN. Ydi, drwg iawn.
EMRYS. Bendigedig!—gore'n y byd . . . ond Ann? (Yn rhoi'i law ar ei hysgwydd.)
ANN. Wel?
EMRYS. Mi gewch i ddeud o wrtha i . . . ar ol ini adael y gors . . . pan fydd y pererinion yn eistedd dan y palmwydd. Hyd hynny, peidiwcb a son . . . .. Wel, wir, dyma garu go od, goelia i?
ANN. Rhyfedd iawn . . . Emrys bach, ond dydi hi ddim i'r rhyfeddodau ddaw eto. (Emrys yn nesu ati.) Na! ddim eto . . . wrth ddrws y jêl pan ddowch chi allan. Mae nhw'n siwr o'ch gyrru chi yno am hyn. Mi fyddai yno'n disgwyl.
(Curo wrth y drws. Roberts y plisman yn dod i mewn.)
ROBERTS. Wel, wel. Job ffiaidd ydi job plisman,