BEDDAU'R PROFFWYDI.
YR ACT GYNTAF.
[Cegin y Sgellog Fawr tuag wyth o'r gloch y nos yn nechreu nis Tachwedd, rhyw ugain mlynedd yn ol. Nid yw'r canhwyllau wedi eu goleu elo, ond teifl y tân wawr gynnes tros yr ystafell. Ar y llaw dde, y mae'r tân,—tân coed isel yn llosgi'n ffyrnig. Ar y llawr o'i gylch, ar y pentanau, ac yn crogi ar gadwyni, y mae crochanau a llestri o'r fath. Nid oes yma ffender o gwbl, heblaw'r hen Bero, y ci, sy'n gorwedd ar ei hyd ar yr aelwyd. Wrth y tân, ac yn ein hwynebu, y mae setl dderw drom, ac arni'n eistedd hen wraig, Mali Owen, yn gwau hosanau. Y mae'n amlwg bod ei dyddiau gweithio hi trosodd,y mae'i dwylo'n crynnu wrth drin y gweill. Mae ganddi gap gwyn—y "cap lasiau" hen ffasiwn—am ei phen, a barclod stwff tywyll o'i blaen. Teifl ambell olwg ar y tân, a dyry ei gwau i lawr yn aml ar ei harffed, a syll yn bendrist i'r flamau, fel pe bai'n gweled rhywbeth y tu draw iddynt. O flaen y tân, ac wrth law dde Mali Owen, y mae bwrdd crwn a lliain gwyn arno, yn barod at bryd. Y mae "bwrdd mawr" o flaen y ffenestr sy'n mhen draw yr ystafell, ac yslenau, dysglau, platiau, a chyllill yn dryblith arno. Ar ochr chwith y ffenestr y mae cwpwrdd tridarn, a phlatiau gleision ar y darn canol. Ar yr ochr chwith yn nes atom, y mae'r prif ddrws, yn arwain i ffrynt y ty; y mae drws arall y tu ol i'r setl yn agoryd i'r ty llaeth (neu'r briws) ac i ddrws y cefn. Troell bach yn y gongl wrth y drws chwith, a "Chloc wyth" ar y pared wrth ddrws y briws. Cadeiriau derw yma ac acw ar hyd yr ystafell. Ar y pared, darluniau o rai o'r hen bregethwyr, ac almanac neu ddau yn