cymell bwyd gwartheg, gwrtaith esgyrn, a nwyddau o'r fath. Mewn byr eiriau, gellir dywedyd bod y gegin yr un fath a phob cegin arall yn Sir Gaernarfon—neu Sir Fynwy—yng nghartre'r amaethwyr hynny sy dipin cyfoethocach na thyddynwyr, ac eto heb ddyfod yn agos i ardderchowgrwydd ffermwyr mawr Sir Fôn a Bro Morgannwg.]
ROBERT WILLIAM (yn dyfod i mewn gyda lusern yr ystabl yn oleu yn ei law. Gŵr bychan bywiog ei ysgogiadau, pwyllog ei leferydd: hawdd ei gythryblu, ond yn anghofio'n fuan: yn siarad llawer, ond yn gallu cadw ei gyfrinach cystal ag ungwr). Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam?
MALI OWEN. Hitia befo. Rydw i'n hen gynhefin â bod yn unig, weldi; a mi fedra i weld llawn cymint yn y twilwch, am wn i wir,—a mwy.
ROBERT WILLIAM. Wel, rhaid ini gael lamp i'ch gweld chi beth bynnag, rhag ofn ych bod chi ar rhyw berwyl drwg. (Yn galw.) Elin ! Elin!
ELIN WILLIAM. (o'r ty llaeth). Beth sydd eisio?
ROBERT WILLIAM. Dowch â thipyn o ola yma, neno'r taid; mae'r hen wraig i hun yn y fan yma fel pelican yr anialwch. Mae hi'n wyth o'r gloch, ac yn dywyll fel bol buwch.
MALI OWEN. W'yth o'r gloch! Wyth o'r gloch!
ROBERT WILLIAM. Welis i rioed siwn beth ag Elin yma ar ol i Emrys ddwad adre. Mae hi wedi pendronni'n lân;—chafodd y moch yr un tamad o fwyd bore heddiw, mi gymra i fy llw,—a wyddoch chi beth, mam? roedd yna flas hir hel ar y menyn yr wythnos yma,—oedd fel mae byw fi;—y tro cynta erioed ar ol i Elin ddwad i'r Sgellog.
ELIN WILLIAM (yn dyfod i fewn gyda'r lamp). Tewch â rhuo, Robert, am y menyn yna o hyd. Mae llawer mwy o hir hel wedi bod arno ar ol i roi ar y bwrdd na chynt, ddyliwn i. Ydi'r golau'n rhy gry i chi, nain?