Llyfr cyntaf Moses yr
hwn a elwir Genesis
PENNOD I
Creadwriaeth y nêf, a’r ddaiar, 2 Y goleuni a’r cywyllwch, 8 Y ffurfafen, 16 Y pysc, yr adar, a’r anifeiliaid, 26 A dyn. 29. Llynniaeth dyn ac anifail.
Yn y dechreuad y creawdd Duw y nefoedd a’r ddaiar.
2 Y ddaiar oedd afluniaidd, a gwâg, a thywyllwch [ydoedd] ar wyneb y dyfnder, ac yspryd Duw yn ymsymmud ar wyneb y dyfroedd.
3 Yna Duw a ddywedodd, bydded goleuni, a goleuni a fû.
4 Yna Duw a welodd y goleuni mai dâ [oedd,] a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch.
5 A Duw a alwodd y goleuni yn ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn nôs: a’r hwyr a fû, a’r borau a fû, y dydd cyntaf.
6 Duw hefyd a ddywedodd bydded ffurfafen yng-hanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a dyfroedd.
7 Yna Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd y rhai [oeddynt] oddi tann y ffurfafen, a’r dyfroedd y rhai [oeddynt] oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.
8 A’r ffurfafen a alwodd Duw yn nefoedd: felly yr hwyr a fû, a’r borau a fû, ’r ail ddydd.
9 Duw hefyd a ddywedodd, cascler y dyfroedd oddi tann y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sych-dîr: ac felly y bû.
10 A’r sych-dîr a alwodd Duw yn ddaiar, chascliad y dyfroedd, a alwodd efe yn foroedd: a Duw a welodd mai dâ oedd.
11 A Duw a ddywedodd egined y ddaiar egin [sef] llyssiau yn hadu hâd, a phrennau ffrwyth-lawn yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai [y mae] eu hâd ynddynt ar y ddaiar: ac felly y bû.
12 A’r ddaiar a ddûg egin [sef] llyssiau yn hadu hâd wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth y rhai [y mae] eu hâd ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd.
13 Felly yr hwyr a fu, a’r borau a fu, y trydydd dydd.
14 Duw hefyd a ddywedodd, bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymmorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.
15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaiar: ac felly y bu.
16 Oblegit Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu y nôs: a’r sêr [hefyd.]
17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaiar:
18 Ac i lywodraethu y dydd a’r nôs, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd Duw mai dâ oedd.
19 Felly yr hwyr a fu, a’r borau a fu, y pedwerydd dydd.
20 Duw hefyd a ddywedodd, heigied y dyfroedd ymlusciaid byw, ac eheded ehediaid ar y ddaiar, ac wyneb ffurfafen y nefoedd.
21 A Duw a greawdd y mor-feirch mawrion, a phôb ymlusciad byw y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phôb ehediad ascellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai dâ oedd.
22 Yna Duw ai bendigodd hwynt, gan ddywedyd: ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaiar.
23 A’r hwyr a fû, a’r borau a fû, y pummed dydd.
24 Duw hefyd a ddywedodd, dyged y ddaiar ar [bôb] peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusciad, a bwyst-fil y ddaiar wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.
25 Felly y gwnaeth Duw fwyst-fil y ddaiar, wrth ei rywogaeth, a’r anifail wrth ei rywogaeth, a phôb ymlusciad y ddaiar wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai dâ oedd.