Tudalen:Beibl Cyssegr-Lan 01 Intro+Genesis.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

thi, dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tann ei dwylo hi.

10 Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi: gan amlhau yr amlhaf dy hâd di, fel na rifir ef o luosogrwydd.

11 Dywedodd hefyd angel yr Arglwydd wrthi hi, wele di yn feichiog, a thi a escori ar fâb, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di.

12 Ac efe a fydd ddŷn gwyllt, ai law ar baŵb, a llaw paŵb arno yntef, ac yn trigo ger bron ei holl frodyr.

13 A hi a alwodd enw’r Arglwydd yr hwn oedd yn llefaru wrthi, ti, ô Dduw, wyt yn edrych arnafi: canys dywedodd oni edrychais ymma hefyd ar ol yr hwn sydd yn edrych arnaf?

14 Am hynny y galwyd y ffynnon, ffynnon Laha Roi: wele, rhwng Cades a Bared [y mae hi.]

15 Ac Agar a ymmddug fâb i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fâb, yr hwn a ymddugase Agar, Ismael.

16 Ac Abram [oedd] fâb pedwar ugainmlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddug Agar Ismael i Abram.

PEN. XVII.

Abram a elwir Abraham. 8 Addewid arall i Abram ar dir Canaan. 12 Gossod enwaediad. 15 Sarai a elwir Sara. 16 Duw yn addo Isaac. 23 Abrahan yn ei enwaedu ei hun, ac Ismael, ai holl deulu.

Pan oedd Abram onid un mlwydd cant, yna’r ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho: myfi [ydwyf] Dduw hôll alluog, rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.

2 Ac mi a roddaf fyng-hyfammod rhyngof a thi, ac a’th amlhâf di yn aml iawn.

3 Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef gan ddywedyd.

4 Myfi wele [a wnaf] fyng-hyfammod a thi, a thi a fyddi yn dad llaweroedd o genhedloedd.

5 Ath henw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham, canys yn dâd llaweroedd o genhedloedd i’th roddais.

6 Ac mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a’th roddaf di yn genhedloedd, a brenhinoedd a ddeuant allan o honot ti.

7 Cadarnhaf hefyd fyng-hyfammod rhyngof a thi, ac a’th hâd ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddawl, i fod yn Dduw i ti, ac ith hâd ar dy ôl di.

8 A mi a roddaf i ti, ac i’th hâd ar dy ôl di, wlâd dy ymdaith sef holl wlâd Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddawl; ac mi a fyddaf yn Dduw iddynt.

9 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, cadw dithe fyng-hyfammod, ti, a’th had ar dy ôl trwy eu hoesoedd.

10 Dyma fyng-hyfammod yr hwn gedwch rhyngof fi, a chwi, a’th hâd, ar dy ôl di: enwaeder pôb gwryw o honoch chwi.

11 Enwaedwch gan hynny gnawd eich dienwaediad: fel y byddo yn arwydd cyfammod rhyngof fi, a chwithau.

12 Pôb gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich oesoedd: yr hwn a aner yn tŷ, ac a brynner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o’th hâd di.

13 Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a brynner am dy arian di, fel y byddo fyng-hyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragywyddawl.

14 A’r gwryw dienwaededic, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl: [oblegit] efe a dorrodd fyng-hyfammod.

15 Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara [fydd] ei henw hi.

16 Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fâb o honi: ie bendithiaf hi fel y byddo yn genhedloedd, brenhinoedd pobloedd fyddant o honi hi.

17 Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, a blentir i fâb can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwarugain?

18 Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw, ôh na bydde fyw Ismael ger dy fron di,

19 A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fyng-hyfammod ag ef, yn gyfammod tragywyddawl iw had ar ei ol ef.

20 Am Ismael hefyd ith wrandewais, wele, mi ai bendithiais ef ac mi ai ffrwythlonaf ef, ac ai lluosogaf yn amliawn: deuddec tywysog a genhedla efe, ac mi ai rhoddaf ef yn genhedlaeth fawr.

21 Am cyfammod a gadarnhaf ag Isaac yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd-hwn y flwyddyn nessaf.

22 Yna y peidiodd a llafaru wrtho, a Duw a aeth i fynu oddi wrth Abraham.

23 Ac Abraham a gymmerodd Ismael ei fâb, a’r rhai oll a anesyd yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynnase efe ai arian, pôb gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt, o fewn corph y dydd hwnnw, fel y llefarase Duw wrtho ef.

24 Ac Abraham [oedd] fâb onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

25 Ac Ismael ei fâb ef yn fâb tair blwydd ar ddec pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

26 O fewn corph y dydd hwnnw ’r enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fâb.

27 A holl ddynion ei dŷ ef y rhai a anesyd yn tŷ, ac a brynnesyd ag arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gŷd ag ef.