eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aifft.
45:5 Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi.
45:6 Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi.
45:7 A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.
45:8 Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl d? ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft.
45:9 Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Ioseff: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda:
45:10 A chei drigo yng ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt:
45:11 Ac yno y’th borthaf; (oblegid pum mlynedd o’r newyn a fydd eto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt.
45:12 Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Ben-iamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych.
45:13 Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aifft, a’r hyn oll a welsoch; brysiwch hefyd, a dygwch fy nhad i waered yma.
45:14 Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Ben-iamin, ac a wylodd; Ben-iamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau.
45:15 Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ôl hynny ei frodyr a ymddiddanasant ag ef.
45:l6 A’r gair a ddaeth i d? Pharo, gan ddywedyd, Brodyr Ioseff a ddaethant: a da oedd hyn yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei weision.
45:17 A Pharo a ddywedodd wrth Ioseff, Dywed wrth dy frodyr, Gwnewch hyn; Llwythwch eich ysgrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlad Canaan;
45:18 A chymerwch eich tad, a’ch teuluoedd, a deuwch ataf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aifft, a chewch fwyta braster y wlad.
45:19 Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hyn: cymerwch i chwi o wlad yr Aifft gerbydau i’ch rhai bach, ac i’ch gwragedd; a chymerwch eich tad, a deuwch.
45:20 Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn; oblegid da holl wlad yr Aifft sydd eiddo chwi.
45:21 A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Ioseff iddynt hwy gerbydau, yn ôl gorchymyn Pharo, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.
45:22 I bôb un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Ben-iamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad.
45:23 Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ?d, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd.
45:24 Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.
45:25 Felly yr aethant i fyny o’r Aifft, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Iacob;
45:26 Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Ioseff eto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.
45:27 Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Ioseff, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Ioseff i’w ddwyn ef, yna y bywiogodd ysbryd Iacob eu tad hwynt.
45:28 A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Ioseff fy mab eto yn fyw: af, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.
PEN. XLVI.
46:1 Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beerseba, ac a aberthodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac.
46:2 A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Iacob, Iacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
46:3 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aifft; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.
46:4 Myfi a af i waered gyda thi i’r Aifft; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fyny drachefn: Ioseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.
46:5 A chyfododd Iacob o Beer-seba: a meibion Israel a ddygasant Iacob eu tad, a’u rhai bach, a’u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i’w ddwyn ef.
46:6 Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aifft, Iacob, a’i holl had gydag ef:
46:7 Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a’i holl had, a ddug efe gydag ef i’r Aifft.
46:8 A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i’r Aifft, Iacob a’i feibion Reuben, cynfab Iacob.
46:9 A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.
46:10 A meibion Simeon, Iemwel, a Iamin, ac Ohad, a Iachin, a Sohar, a Saul mab Canaanees.