Tudalen:Beibl Cyssegr-Lan 01 Intro+Genesis.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a holl dylwyth ei dad, a bara, yn ôl eu teuluoedd.

47:13 Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aifft, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.

47:14 Ioseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Ioseff a ddug yr arian i d? Pharo.

47:15 Pan ddarfu’r arian yn nhir yr Aifft, ac yng ngwlad Canaan, yr holl Eifftiaid a ddaethant at Ioseff, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? oherwydd darfu’r arian.

47:16 A dywedodd Ioseff, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu’r arian.

47:17 A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Ioseff: a rhoddes Ioseff iddynt fara am y meirch, ac am y diadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynnod; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno.

47:18 A phan ddarfu’r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir.

47:19 Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a’n tir? pr?n ni a’n tir am fara; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharo: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo’r tir yn anghyfannedd.

47:20 A Ioseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bôb un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo.

47:21 Y bobl hefyd, efe a’u symudodd hwynt i ddinasoedd, o’r naill g?r i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall.

47:22 Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a’u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.

47:23 Dywedodd Ioseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a’ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.

47:24 A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o’r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i’ch rhai bach.

47:25 A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharo.

47:26 A Ioseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.

47:27 Trigodd Israel hefyd yng ngwlad yr Aifft o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.

47:28 Iacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aifft ddwy flynedd ar bymtheg; felly yr oedd dyddiau Iacob, sef blynyddoedd ei einioes ef, yn saith mlynedd a deugain a chan mlynedd.

47:29 A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Ioseff, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, atolwg, yn yr Aifft:

47:30 Eithr mi a orweddaf gyda’m tadau; yna dwg fi allan o’r Aifft, a chladd fi yn eu beddrod hwynt. Yntau a ddywedodd, Mi a wnaf yn ôl dy air.

47:31 Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho. Yna Israel a ymgrymodd ar ben y gwely.

PEN. XLVIII.

48:1 A bu, wedi’r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Ioseff, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef, Manasse ac Effraim.

48:2 A mynegodd un i Iacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Ioseff yn dyfod atat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.

48:3 A dywedodd Iacob wrth Ioseff, Duw, Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, ac a’m bendithiodd:

48:4 Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a’th wnaf yn ffrwythlon, ac a’th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ôl di, yn etifeddiaeth dragwyddol.

48:5 Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft, cyn fy nyfod atat i’r Aifft, eiddof fi fyddant hwy: Effraim a Manasse fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon.

48:6 A’th epil, y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt, fyddant eiddot ti dy hun, ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.

48:7 A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.

48:8 A gwelodd Israel feibion Ioseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?

48:9 A Ioseff a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd Duw i ni yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, atolwg, ataf fi,