Tudalen:Beibl Cyssegr-Lan 01 Intro+Genesis.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a mi a’u bendithiaf hwynt.

48:10 Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a’u dygodd hwynt ato ef: yntau a’u cusanodd hwynt, ac a’u cofleidiodd.

48:11 Dywedodd Israel hefyd wrth Ioseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele parodd Duw i mi weled dy had hefyd.

48:12 A Ioseff a’u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.

48:13 Cymerodd Ioseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a’u nesaodd hwynt ato ef.

48:14 Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a’i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oed yr ieuangaf,) a’i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.

48:15 Ac efe a fendithiodd Ioseff, ac a ddywedodd, Duw, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, Duw, yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,

48:16 Yr angel yr hwn a’m gwaredodd oddi wrth bôb drwg, a fendithio’r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.

48:17 Pan welodd Ioseff osod o’i dad ei law ddeau ar ben Effraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i’w symud hi oddi ar ben Effraim, ar ben Manasse.

48:18 Dywedodd Ioseff hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma’r cynfab, gosod dy law ddeau ar ei ben ef.

48:19 A’i dad a omeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd, ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a’i had ef fydd yn lliaws o genhedloedd.

48:20 Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed Duw di fel Effraim, ac fel Manasse. Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse.

48:21 Dywedodd Israel hefyd wrth Ioseff, Wele fi yn marw, a bydd Duw gyda chwi, ac efe a’ch dychwel chwi i dir eich tadau.

48:22 A mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â’m cleddyf ac â’m bwa.

PEN. XLIX.

49:1 Yna y galwodd Iacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf.

49:2 Ymgesglwch, a chlywch, meibion Iacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad.

49:3 Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.

49:4 Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad; yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.

49:5 Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau.

49:6 Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â’u cynulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant ?r, ac o’u gwirfodd y diwreiddiasant gaer.

49:7 Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a’u llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Iacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.

49:8 Tithau, Iwda, dy frodyr a’th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymant i ti.

49:9 Cenau llew wyt ti, Iwda; o’r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a’i cyfyd ef?

49:10 Nid ymedy’r deyrnwialen o Iwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd.

49:11 Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad yng ngwaed y grawnwin.

49:12 Coch fydd ei lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.

49:13 Sabulon a breswylia ym mhorthleoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a’i derfyn fydd hyd Sidon.

49:14 Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn.

49:15 Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.

49:16 Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel.

49:17 Dan fydd sarff ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau’r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.

49:18 Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.

49:19 Gad, llu a’i gorfydd; ac yntau a orfydd o’r diwedd.

49:20 O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.

49:21 Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.

49:22 Ioseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur.

49:23 A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef.

49:24 Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo grymus Dduw Iacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:

49:25 Trwy Dduw dy dad, yr hwn a’th