Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD

Ceisio agor cyfair o hen wndwn gwydn wneir yma. Bu yn faes o wenith gwyn gynt lle yr oedd medel yn aml a'u can yn fynych. Syrthiodd y magwyrydd wedi hynny ac aeth y deiliad yn ddiofal o'r maes. Heddyw bydd duryn y gwydd yn taro'n fynych wrth garreg ystyfnig a'r cwlltwr yn tagu wrth wreiddyn cyndyn cudd, a'r gwys felly yn mynd yn gam a'r arddwr yn flin. Amaeth llibyn, er hynny, sy'n torri ei galon pan dorro ei wydd mewn hen faes, oblegyd lle y bu gwenith yn tonni a gwedd aml lwythog gynt gellir hynny eto. Rhaid, er hynny, i'r sawl fynno ddwyn yr henfaes yn ol yn dir âr ymfoddloni a dwyn y draul. Os aeth y Gododin yn Tin Ap, os aeth Prosa'r Llan drwy'r "Prost" i'r llaid yn "Ymffrost," os aeth Organum a hen gerdd y Cor drwy'r "Orian" yn "Hwiangerdd," os aeth "Canu Grigor" o'r Llannau gynt yn "Glogyrnach" heddyw ag yn ddihareb, os aeth "Gosteg yr Halen" o fod yn Anthem santaidd gweision bychain yr Eglwys a gwlith y Cymun cyntaf arni—os aeth yn hollol ddiystyr a'i galw yn Prelude to the Salt, os aeth yr hen Filid tywysogaidd yn "Wylliad" a "Dylluan" yn lle yr "Annwylyd" a'r "Benwyll," os aeth yr "Oes" a'r canu mawr gynt yn "Eos" ac yn aderyn dieithr, os aeth "Tydai Tad Awen" ei hun yn frenhinyn dinod o Wyddel a cholli ei hen berthynas a'r Tuatha De Danann ac os digwyddodd myrdd o bethau tebyg drwy dreigl amser a llibyndod yr etifedd rhaid i rywrai fod yn foddlon syrthio yn fynych wrth geisio glanhau yr hen afael. On der i ddyn syrthio felly, pwy all ei ysbeilio o'r gwynfyd geir wrth geisio adfeddianu yr hen dyddyn i'r hen deulu, neu ei reibio o'r mwyniant geir wrth godi magwyrydd yr hen dreftadaeth? Derbynied y darllenydd y llyfr felly, fel ymdrech i gyweirio ychydig ar gloddiau yr hen faes.

Feallai y syrth y llyfr ar lwybr beirniad. Cafodd rhai beirniaid Ras a Gwirionedd, eraill Wirionedd yn unig.