Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Croeso i'r cyntaf a chroeso ddwywaith i'r ail. Bydd y grasol yn debyg o godi bys at y bwlch yn y fagwyr gyweiriwyd, a'r llall godi dau fys at y bylchau adawyd. Gan mai'r gamp yw dysgu ac nid dysg, gwyn fyd y gwr fedro ddysgu drwy deg, a gwyn ei fyd yntau hefyd a fedro ddysgu drwy'r garw. Gwell i grafanc y beirniad dynnu gwaed na gwneud gwr yn foddlon a cholli awydd dysgu. Y mae beirniad arall yn y tir, ond ni fedraf feddwl am air addas ar ei gyfer ef.

Wedi gorffen, mae'n debyg y bydd pob awdwr wedi laru ar ei lyfr, eithr y mae rhai pethau yn aros yn felys byth: Cymdeithas cydweithwyr ar y ffordd, adgof am y gwyr pendefigaidd hynny fu'n rhoi llaw i mi gynt a'u gwaith a'u hymdrech ger bron fy llygaid ynghwsg ac effro, a'u henw yn grair bellach. Ni feiddiaf enwi y rhai hyn, ond rhyngwyf a mi fy hun, rhag bod ieuo gwaith fel hwn a'u henw hwy fel tinc cloch bres ymhlith clychau arian.

Y mae arnaf ddyled i rai sydd o fewn cyraedd hefyd. Bu Dr Gwenogvryn Evans yn swmbwl yn fy nghnawd yn aml, ag yn Samariad yn amlach, ac er bod yn Samariad yn annwyl i'r swmbwl yr wyf yn diolch yn bennaf.

Poenais lawer ar swyddogion llyfrgelloedd ac y mae fy nyled yn fawr i Lyfrgell y Coleg, Y Llyfrgell Genedlaethol, Mr Leigh, Llyfrgell Christie, Dr Weber, Llyfrgell Genedlaethol Munich, Dr Binz, Basel, Dr Sillib a Dr Berenbach o Heidelberg, Dr Bloesch o Bern, Dr Preisendanz, Karlsruhe, Dr P. Pius Karncy, Lilienfeld, Cardinal Ehrle a Dr Mercati o'r Vatican, Llyfrgell Prifysgol Heidelberg, a'r Tad Paul Walsh a Dr R. I Best o brif Lyfrgell y Saorstat, a Dr Fäh o St Gallen.

Yr wyf yn cydnabod fy rhyfig yn gollwng llyfr fel hwn o'm llaw heb ddarllen Tommasius, Mabillon, Martène, Muratori, Gevaert a rhai eraill tebyg, ond nid oedd modd cael gafael arnynt yma, a rhyfig mwy fyddai gadael y maes fel yr oedd ar ol "Cerdd Dafod."

Oherwydd traul argraffu cwtogwyd a naddwyd llawer ar y llyfr—naddwyd ambell ddarn nes ei wneud yn anodd hyd yn