RHAGAIR
Am oesau maith bu Cymru, fel gwledydd eraill Cred, fyw yn ddiofal o hanes ei hen draddodiadau. Treiglai hwy o do i do— pan fyddai heddwch a hefin, chwareuai a hwy; a phan ddelai drycin a chad ar faes, hwy oedd ei chanllaw a sail ei gobaith. Trosid hwy o gof a chlawr iraid (wax tablet) i beithynen a gwyddbwyll (writing table), ac yn y diwedd ysgrifennai rhywun rai o honynt ai asgell fraith ar femrwn a breithell nes iddynt dyfu yn Ododin neu'n Frut neu'n Fabinogi.
Cesglid y rhai hyn mewn neuadd a chell—yn Llanilltyd, ym Margam, yn Nhyddewi, Llanbadarn, Ystrad Fflur, neu Llanthony neu gilfach debyg. Yno y buant dan lygad Henog a Heneif yn swn dawns neu bader am lawer canrif. Yna daeth amser chwalu cell a ffreutur lle yr oedd moes a dysg a memrwn fel ei gilydd bellach yn braenu. Wedi'r chwalu aeth llawer o'r hanes yn chwedlau, ac aeth llawer o'r chwedlau hyn i'r ffos a chad o hen femrynau yno, fel glwth ar ol gwest, i noswylio gyda hwy. Gadawyd ychydig weddill fel hadyd. Daeth tro drachefn ar fyd, a dechreuwyd lloffa ag edrych beth oedd gwerth y lloffion hyn. Weithiau, yr un a fuasai yn chwalu oedd weithian yn lloffa. Un o chwalwyr Harri VIII oedd Syr J. Price, Brycheiniog, ac efe gadwodd "Llyfr Du Caerfyrddin" inni, ac a roddod "Yn Y Llyfr Hwn" llyfr cyntaf Cymru newydd inni, yn o.c. 1546.
Gyda ffrae lenyddol Humphrey Lhwyd a'r Albanwr Bu— chanan ynghylch cyff a hanes bore'r Celt, dechreuodd y Celt ynteu ymryddhau o hualau chwedl Brutus. Hyd hynny edrychid ar y Cymro a'r Sais, y Gwyddel a'r Albanwr, fel un tylwyth o lin Brutus, a'r pedair cainc wedi eu clymu fel y clymai heliwr bedair bagal iwrch marw iw ddwyn i'r gegin gynt. Weithian, gwelodd y Celt fod ganddo ynteu gystal hanes a'r un genedl rhwng deupen Llwybr y Gwynt. Dechreuodd wrando ar yr hen hanes hwn ag edrych ar yr hen