draddodiadau fel tystion gwerth gwrando arnynt. Teimlai Gruffyd Roberts, Milan (1567), a S. D. Rhys o Gwmllwch (1592), iasau y bywyd newydd, a rhoisant inni eu dau Ramadeg yn ddau ladmerydd. Ar ddechreu'r ddeunawfed ganrif yr oedd Edward Lhuyd yn ymroi i efelychu Etymologicon Lladin Gerard Voss (Amsterdam, 1662), a darpar ei Archaeologica Britannica (Oxford, 1707) er mwyn i'r Celt allu darllen ei hanes ei hun. Fel bu'r aflwydd, nid oedd neb yng Nghymru yn ddigon medrus neu awyddus i drin yr offer ddarparasai Lhuyd, a bu'r gwr mawr hwnnw farw'n ddietifedd.
Ymhen canrif arall, dechreuwyd o gyfeiriad newydd pan gyhoeddodd Owain Myvyr, Iolo Morganwg a Dr Pughe y gyfrol gyntaf o'r Myvyrian Archaeology, Calan Ionor, 1801. Wrth gofio llafur diflin y drindod lwydaidd honn a'i hymroad i godi Cymru o'r ffos, anodd edrych yn ddiofid ar ei gobrwy heddyw. Yn 1853 daeth Kaspar Zeuss—mab i saer maen tlodaidd o Bavaria—ai Grammatica Celtica i agor drws gobaith i'r Gwyddyl a ninnau gael meddiant llwyrach o'n hen etifeddiaeth. Yn 1861, daeth Eugene O'Curry—gwr athrylithgar ac ymroddedig wedi ei alw o fod yn was mewn gwallgofdy i fod yn athro cadeiriog Prif Ysgol newydd yr Iwerddon gan John Henry Newman, a rhoddodd O'Curry inni ei Lectures on the Manuscript Materials of Ancient Irish History. Rhwng Myvyrian Cymru, a Grammatica Celtica Zeuss a Manuscript Materials O'Curry yr ydym yn dod i'r briffordd.
Yn 1874 dechreuodd John Rhŷs drin hen gerrig nadd Cymru a hen ysgyrion Cymraeg, ond yn lle dilyn llwybr cul Kaspar Zeuss a chasglu a nithio yn ddiarbed, syrthiodd Rhŷs dan gyfaredd Cox a Max Müller a phroffwydi duwiau'r cyfddydd. Gwell fu ganddo dreulio ei oes i ddyfalu na chasglu; ac esbonio'r aneglur drwy'r amwys na chloddio yn amyneddgar. Nid yw ryfedd nad yw gwaith Rhŷs ymhlith y cerrig milltir nodir yn "Preface" gramadeg Cymraeg Syr J. Morris—Jones. Bawaidd o beth, er hynny, fyddai anelu at fychanu ei waith ai ymroad, ond baweiddiach na hynny