Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddai tybio fod ymwared ar lwybr Rhŷs. Nid oes a fynnom ni yma onid ai Englyn (Cymmrodor, XVIII, 1905), ai driniaeth o hen droddiadau llenyddol Cymru yn ei Welsh Philology (2. arg. 1879), ai Hibbert Lectures, ac yno y gwelir ef ar ei wannaf. Ysgrifennodd Rhŷs hanes tyfiant yr englyn yng Nghymru, ond y mae yn amlwg iddo wneud hynny heb chwilio ond ychydig iawn ar hanes yr englyn ai ddadblygiad. Nid oed ryfedd iddo felly fynd ar gyfeiliorn.

Cyfeiria traddodiad Cymru at Annwfyn, Ogyrfen, Tedei Tad Awen a phethau tebyg fel hen fagwrfeydd diwylliant Cymru, ond beth ddigwyddodd iddynt dan law a dylanwad Rhŷs? Edrychai Rhŷs ar Annwfyn fel enw Cymru ar Hades, ac aeth Hades yn hell o dan ei ddwylaw. Yna dangosodd Syr J. Morris—Jones ar dd. 160, o "Welsh Grammar" mai ystyr gyntaf annwfyn oedd "bottomless, hell." Paham yr olrheiniai hen genedl y Cymry ei diwylliant yn ol i'r pwll diwaelod? Nid Hades na hell na bottomless oedd annwfyn Cymru gynt, ond y numina h.y. gair y Rhufeiniwr am ysbrydion gwyr ymadawedig. Y mae Gildas Gymro yn ei "Oratio Rythmica" (Gildae Oratio Rythmica; W. Meyer, 1912) yn gweddio ar Grist ei gadw rhag i numina yr afon a'r nos ei ddrygu ar ei daith; ond y mae amryw o hen emynwyr y canoloesoedd yn cyfrif yr Ysbryd Glan ymhlith y numina. Cyfrifir hefyd y Drindod Santaidd gan Prudentius a dyd Canol haf yn Carmina Burana yn eu plith. Ceir hefyd enwau fel Nwmin a Nefyn yng Nghymru. Ond sylwer ar y difrod a wnaed drwy i Rhŷs olrhain ein diwylliant yn ol i Hades. Digon gwir mai uffern anghred oedd ganddo a bod honno lawer rhywiocach nag uffern Cred gynt, ond y pwll diwaelod oedd ei Hades wedi'r cwbl. Nid "uffern" ond Rhufain a hen wehelyth Cymru oedd ffynon eu diwylliant—hwy roddodd y Numina a'r syniadau hyn i'n tadau ni. Nid o uffern y caed yr Ysbryd Glan na "Phlant Rhys Ddwfn" (fairies) yng Nghymru, eithr rhan o fyd ysbrydol y Numina ydynt.

Y mae dyfaliadau Rhŷs am yr Ogyrfen yn debyg i'w esboniad ar annwfyn. Dilynnodd hon yn ol yn ei chrynswth