Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at dduwiau'r cyfddydd. Sylwer ar esboniad Rhŷs (Welsh Phil. 303-8) ar yr Ogyrven, a oes dichon cael gwybod dim diogel am y gorffennol ar hyd llwybrau fel hyn? Y mae yn amlwg fod yr hen Gymry yn edrych ar Cyrven ag Ogyrven fel yn perthyn i'r un teulu. Dywed Anwyl mai curve, character, dialect yw ystyr Cyrven, ac arweinir ni i gredu, yn ddiarwybod, mai yr un yw curve y Sais a cyrven y Cymro. Ni cheir Gogyrven na Ogyrven yn Anwyl. Pa fodd y gallodd curve dyfu i fod yn gyfystyr a dialect ac alphabet? Yr un gair, yn ddiau, ydyw cyrven a hen air y Sais keorven, ceorfan, corven, etc., h.y. to carve, carved, etc., ac yn tybio "llythyren wedi ei cherfio" neu "bren wedi ei naddu." Fel y dywedir isod wrth drin "cynghanedd lusg," stave, staff, beam, etc. oedd hen enw'r Sais ar lythyren a gwyddor, a llythyr a llinell neu bennill o ganu. Dyma "carfan" Dyfed. Cymysgodd yr Athro H. Lewis y gair a "cerbyd," etc., Celt. Bull., 1, 12-14. Hanes tebyg sydd i'r ystorynau ddisgrifir yn Iolo MSS. td. 204. Trinia Rhŷs hwy yn Welsh Phil. td. 302, ac awgryma mai arithmetical fraction ydyw ystoryn ac yn deilliaw o "torri." Ei ystyr ydyw llythren neu ysgrif, ac y mae debyg iawn gennyfi mai yr hen air Saesneg stave rune (line of poetry), neu'r unigol o stave row (alphabet, etc.), wedi ei fenthyca ar lafar gwlad er's amser maith yn ol ydyw. Y mae yn ateb yn lled gywir ymhob peth, tra nad oes dichon gweld sut y gallai darddu o "torri."

Os yw yn iawn dweyd mai o keorven, ceorfan y daw cyrfen y Cymro, onid oddiyno y daw corfan (line, metrical foot) hefyd? Ac onid o'r corfan hwnnw y tarddod ban (llinell)? Dywed "Cerdd Dafod" td. 128 mai cor+fan (llinell fer) ydyw corfan, ac mai Iolo Morganwg ddyfeisiodd yr enw hwn. Buasai lawn mor deg dweyd mai Iolo druan ddyfeisiodd yr ogyrven ei hun, yn ogystal a Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Taliesin lle y ceir eu hanes.

Gellid yn hawdd fynd dros yr hen draddodiadau bob yn un ac un felly, a gweld y difrod wnaed wrth ddyfalu fel hyn yn lle chwilio yn amyneddgar.