Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae traddodiadau oesoedd diweddarach wedi dioddef hefyd oherwydd yr un peth, ac ofer yw ceisio cuddio hynny. Derbyniasai Rhŷs Ramadeg Edeyrn a Simwnt Vychan heb holi fawr yn eu cylch mae'n amlwg. Aeth awdwr "Cerdd Dafod" ymhellach a seiliodd ei holl gyfundrefn ar Edeyrn, a defnyddiodd hynny fel canon i farnu ag ail drefnu llawer o hen farddoniaeth Cymru. Ychwanegwyd at hynny yn hyderus gan amryw eraill.

Edrychir, felly, ar y xxiv Mesur fel rhan fyw o hen gyfundrefn beirdd Cymru am fod Edeyrn yn trin xxiv Mesur yn ei Ramadeg. Fel y sylwir isod, yr oedd gan y Gwyddyl gannoedd o enwau mesurau; yr oedd gan y brawd Christan o Lilienfeld xxviii fel Iolo; gan Aldhelm xxxii; gan Tybinus xiv. O ba le y daeth xxiv Edeyrn? Mae'n ddiau gennyf mai o'r unlle ag y caed y xxiv Camp, y xxiv Brenin, y xxiv Mesur Cerdd Dant, etc. A fu o dan haul ddosbarth mor ddidrefn a xxiv Mesur Edeyrn? Y mae'r toddaid yn fesur ynddo, ond gwelir isod fod lle cryf i gredu nad yw'r toddaid ond cyfieithad llythrennol o farce, ac yr oedd i Farce lawer ffurf. Y mae'r proest yn cael lle amlwg yno a gwelir isod nad yw'r proest namyn prose newydd canu Eglwys Rufain, a phwy all ddweyd beth yw eu nifer? Ceir glogyrnach yno hefyd, er bod beirdd a gramadegwyr yr oes o'r blaen wedi gweld nad oedd derfyn ar ffurfiau'r glogyrnach. Yn ol Cyfrinach y Beirdd td. 63, "nid oes diben ar foddion. pennillion clogyrnach." Yn ol Tegai td. 66, yr unig ddau anhebgor ynddo ydyw cynghanedd a phrifodl—ceir pob math o gyhydedd o saith i bedair sillaf ar hugain. Yn ol Tafol Cynddelw td. 94, hefyd gellir defnyddio pob cyhydedd yn yr un pennill. Ni ychwanegir dim o bwys yn "Cerdd Dafod" at Edeyrn. Cyfieithir clogyrnach yn salebrosum (garw) gan S. D. Rhŷs, td. 153, yn rugosity gan G. Mechain, III, td. 156, a Gwynedd, td. 415. Y mae Anwyl yn galw "clogyrnach" yn fesur cerdd a "clogyrnog" (craggy) yn air gwahanol, ond una Cynddelw y ddau air (Tafol, td. 94). Ceir "clo gwrnach" yn Gr. Roberts (IV, 3), "clegyrnach,"