Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"clegyrnych," yn Llanst. MS. 3. 495. Wedi'r cwbl y mae'r "glogyrnach" yn un o'r xxiv Mesur. Y mae'n anodd credu wrth edrych ar ffurfiau'r mesur a ffurfiau gwahanol y gair ai ystyron, nad yw "glogyrnach" namyn ffurf Gymraeg ar naill ai Gregorian song neu y Gregorian Cursus. Fel y gwyddys, math o ganu gwerin oedd canu Grigor (Wolf, td. 82) heb rith rithm na mydr. Mae'n wir iddo, yn ddiweddarach, newid, ond son yr ydym am yr amser pan elwid ef yn cantus firmus i'w wahaniaethu oddiwrth cantus melodicus, neu cantus accurati neu docti canu Ambrose. Os rhoir l yn lle r yn grigor, ac y mae'r ddwy lythyren hyn yn newid yn fynych, yna y mae glogyrnog yn ymddangos yn eithaf rhesymol i mi fel ansoddair o Grigor. Defnyddir "glogyrnog" hyd heddyw gan arweinwyr canu am bawb yn canu yn ei amser ei hun. Sonia Edeyrn (td. xxx) am "Rhupunt," ac y mae i'r Rhupunt, Rhupynt, Huppynt, etc. le mawr yn y Gramadegau; ond pwy allai ddweyd beth ydoedd wrth ddilyn y rhai hyn yn unig? Yn ol Cyfrinach Iolo, 64 sqq.; Cynddelw 95, gelwir ef yn "llostodyn," "y golofn fraith," "awdl losgyrniog," a "gellir cantryw (o fesurau) arno oherwydd Dosbarth Morganwg." Dywed Tegai hefyd fod yr "huppynt" yn cynnwys pob math o bennill llosgyrniog a phob cyhydedd a llosgwrn. Pa fodd y gellir cyfrif hyn i gyd fel un o'r xxiv Mesur? Yn ol Anwyl, hupynt yw ei ffurf, ai ystyr ydyw "brunt, shock, push, metre so called." Rhupunt yw ffurf "Cerdd Dafod," a dilyn Edeyrn wneir. Y mae'n debyg gennyfi nad yw rhupunt onid ffurf ar yr hyn elwid yn Ffr. Reponds, Repuns h.y. Responses iw darllen neu eu canu yn yr Eglwys, ac yr oedd llawer math ohonynt.

Heblaw'r pethau dieithr hyn a llawer eraill ellid enwi, y mae Dosbarth Edeyrn wedi troi o'r neilldu lawer o hen fesurau Cymru. Cyfrifwyd rhai o honynt yn "feiau cerdd," ac aeth eraill yn anghof llwyr. Nid oedd dichon i Edeyrn gael Dosbarth o xxiv heb drais. Ond paham y mynnai gael xxiv Mesur? Ofer ceisio darllen meddwl gwr mor rhyfedd ei ffyrdd; ond gellir awgrymu un rheswm.