Yr oedd yn arfer gan feirdd Cymru ganu acrostic a telestic, etc., h.y. cyfres neu gadwyn o bennillion a llythyren gyntaf neu ddiweddaf y pennillion yn eu trefn yn ffurfio'r wyddor. Os troir i Liber Hymnorum, I, td. 7—13; II, td. 3, ceir emyn Lladin felly sydd o ddiddordeb mawr i Gymro am amryw resymau heblaw hyn. Emyn Secundinus neu Sechnal ydyw, Emyn gynta'r Iwerddon, ac yr oedd efe yn nai fab chwaer Padrig Gymro. Canwyd hi, medd y Prolog, "secundum ordinem alphabeti factus est...more Ebreorum," h.y. canwyd hi fel acrostic, yn ol trefn y wyddor ac yn ol dull yr Hebreaid fel y ceir yn y Salm fawr. Tri phennill ar hugain sydd yn emyn Sechnal (o Gymru y cafodd y Gwyddyl yr egwyddor), ond y mae yn hen iawn ac mewn oes ddiweddarach, yr oedd pedair llythyren ar hugain yn y wyddor fel sydd yn egwyddor Edeyrn. Yn wir, ceir cyfres o bedair ar hugain hyd yn oed. pan nad oedd onid tair llythyren ar hugain yn yr egwyddor, er mwyn, maen debyg, gael rhif cymwys (gwel Traube, Karol. Dicht. 1, 52, 119). Weithiau, deuddeg pennill oedd yn yr acrostic, ond yno, yr oedd y deuddeg pennill yn dechreu a'r deuddeg llythyren gyntaf, ag yn diweddu gyda'r deuddeg diweddaf.
Ceryddir W. Midelton yn Cerdd Dafod, td. 297, am mai efe oedd y cyntaf i roi ar glawr mai deuddeg oedd mewn "gosteg" o englynion. Dywedir yno fel hyn: "Fe welir wrth yr enghreifftiau uchod fod gosteg a chadwyn yn bob rhif ond 12, er y ceir 12 yn naturiol mewn englynion misoedd! D.E. 124—6. O'r gosodiad di—sail a di—reswm uchod y daeth y syniad diweddar mai 12 sydd i fod mewn gosteg a chadwyn. Y nifer goreu yw'r un a gydweddo â'r testun."
Yn anffodus, ni cheir yr enw gosteg ar yr un gyfres yn yr hen ganu. Geilw Cerdd Dafod gosteg ar gyfres "Asswynaf" Cynddelw, ond ni cheir yr enw yn Cynddelw ei hun, a'r unig sail dros ddweyd hynny ydyw fod y gair "gosteg" (silence) yn digwydd yn y gan. Nid oes enw yny y byd uwchben y gan yn Llyfr Du Caer. td. 78—9. Dywed yr athro T. Gwynn Jones (T. Aled, xxv) fod yn rhaid i'r prydyddion adrodd