pennillion neu eu canu ar osteg ac mai dyna pam y gelwir yn ostegion; ond ni ddywedir beth yw hynny. Ceir amryw alawon ar ddiwedd y Myv. Arch. (td. 115—9, 1122, 1127, 1143, 1145, 1156, 1170, etc.) yn dwyn yr enw "gosteg." Y mae amryw o honynt yn ddeuddeg rhan a gosteg hir yn dair ar ddeg. Ni wyr neb, hyd y gwn i, beth yw hanes dilys y gair gosteg (silence), ac felly ni ellir bod yn bendant. Y mae'n ymddangos i mi mai gair arall ydyw "gosteg" o englynion, neu, os mai'r un ydyw, ei fod wedi mynd o dan ddylanwad y gair acrostic. Yr oedd acrostic yn tybio cyfres o ddeuddeg neu bedair ar hugain, ond yr oedd yn enw hefyd ar refrain yn ol Wolf, td. 191.
Ysgrifennwyd llawer ar hanes yr hen acrostic, ac nid oedd diben ar ei ffurfiau gan yr hen feirdd Lladin yn y canoloesoedd. Ffurfiai'r geiriau cyntaf yr egwyddor, neu yn fynych, enw neu adnod neu ddihareb. Trefnid hwy yn fynych fel y trefnir crossword puzzle heddyw, ar ffurf croesau neu lun dyn. Yr amcan, meddir, oedd eu gwneud yn haws eu cofio ond aeth hynny o'r golwg. (Ar yr acrostic, messostic a'r telestic yng ngwasanaeth canu'r Eglwys a beirdd y Canoloesoedd gweler acrostiche yn Cabrol, Dict.; Meyer, Rhythmik, 1, td. 207, 240; II, 18; Traube, Vorles. II, 103; Traube, Karol. Dicht. 52, 119; Wolf, 184, 191; Mon. Ger. Hist., Poem. Med. Aevi, III, 404—5, 682, ac yn neillduol ABC Denkmäler yn Kleine Schriften, Dieterich.)
Yn ein hymchwil ni roisom fawr o bwys ar Edeyrn a lla na hynny ar D. ab Edmwnd. Ni cheisiasom ychwaith ddyddio rhwng ab Edmwnd a Iolo oblegyd wedi gweld beth oedd defnydd Dosbarth ab Edmwnd ni bydd eisiau amddiffyn Iolo. Ein hamcan ni oedd dechreu arloesu'r fford i gael gweld beth oedd hen drefn Beirdd Cymru, yn hytrach na gweld beth oedd barn yr Edeyrn ddienw hwn am feirdd ei oes ef. Pe ceisiai rhywun ddadelfennu canu rhai o feirdd ieuainc Cymru heddyw, ofer fyddai iddo droi i Cerdd Dafod, 1925. Nid yno, ond yn hytrach yng ngwaith Housman a Masefield a chanu felly y ceir goleu, oblegyd dyna'r patrwm.