Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Felly gynt, rhaid troi ag edrych beth oedd beirdd Ewrob yn ganu, a cheir llawer mwy o oleuni yn yr hen femrynnau ar fydr canu'r Eglwys yn y Vatican, yn Lilienfeld, yn Munich, Paris a Llundain nag a geir wrth ddyfalu ar Edeyrn. Heblaw hynny, ceir llawer o gymorth gan femrwn fel Corpus Christi College, Oxford, 59. Hen femrwn yn perthyn i'r xiii. ganrif ydyw hwn ac wedi ei ysgrifennu gan hen athro yn Llanthony. Gellir gweld pa fath ganu Lladin ddysgid yng Nghymru, a gweld fod traddodiad canu yr Eglwys yn debyg yma i'r hyn oedd yn Lilienfeld a'r Cyfandir. Dywedir mai trosi Gramadeg Einion Offeiriad wnaed o'r Lladin. Nid trosi gramadeg Cymraeg wedi ei ysgrifennu yn Lladin, ond gramadeg Lladin ydyw ystyr hyn mi gredaf. Rhaid chwilio felly, beth oedd gan y gramadegwyr Lladin i ddweyd ar Gerdd Dafod yn y Canol Oesoedd. Yna chwilio beth oedd hen arfer y Celt, gybelled ag y galler yng ngoleuni llyfrau athrawon Cerdd Dafod y Gwyddyl a gwyr Llydaw. Rhaid cadw mewn cof ohyd hefyd, mai ar gyfer eu canu a'r llais y canai'r beirdd eu pennillion hwy, ac nad oes obaith am oleuni ar Gerdd Dafod heb gofio ei pherthynas a cherdd dant a nodau cerdd. Os cofir hyn, yna daw canu Taliesin ag Aneirin a Llywarch ag eraill yn llawer mwy diddorol; ceir gweld hefyd nad peth dibwys yw hyn oll pan geisir penderfynnu oes yr hen ganu. Nid yw'n debyg fod beirdd Cymru yn canu yn y seithfed ganrif ar fesurau heb fod mewn arfer yn Ewrob cyn y ddeuddegfed ganrif.

Y mae hanes canu a diwylliant Cerdd Dafod a Thant yng Nghymru yn beth mor eithriadol ddiddorol, ag yn faes mor doreithiog fel na raid neb lafurio yn ofer. Heddyw y mae danadl ar lawer tomen a malurion hen aelwyd enwog o danynt; ond lle bu aelwyd gynt gellir aelwyd eto, a lle bu gardd oi chylch gynt gellir gardd eto.