Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prin raid sydd heddyw drafferthu dangos i neb fod y Celt yn un o arloeswyr mawr diwylliant Ewrob. Y mae hynafieithwyr wedi datgladdu ei dlysau a'i offer a'i arfau o Tyrol Awstria i Aranmore wrth erchwyn yr Iwerddon, ac nid oes eu tecach o'u hoes mewn creirfa yn Ewrob o Vienna i Ddulyn. Y mae delw meddwl gwreiddiol a bath llaw gelfydd arnynt. Prin raid sydd hefyd goffa nad oedd diwylliant y Celt yn gyfyngedig i'r aradr fawr, a'r hen gledd mawr, a gwaith llaw, ond iddo fod ar y blaen yn diwyllio meddwl drwy ddysg, cerdd a chan, trefn cymdeithas a chrefydd. Y mae hanes ei frwydrau yn frut hir, a hanes ei dderwyddon a'i grefydd yn bennod fawr a diddorol. Nid llai diddorol yw hanes ei addysg. Yn 1892 casglodd Dr Otto Denk hanes Ysgolion y Celt ar y cyfandir o'r bore glas hyd yn oes Siarl Fawr yn ei Geschichte des Gallo—frankischen Unterrichts—und Bildungswesens ac y mae yn un o'r pennodau llachraf yn hanes addysg yr hen fyd. (Gweler hefyd Roger, L'Enseignement; Kaufman, Rhetorenschulen; a Leclercq, École yn Cabrol, Dict.) Parchai'r Celt ei filwyr yn fawr, parchai hefyd wyr y llaw gelfydd lawn cymaint a hynny ond uwchlaw'r oll, perchid y gwyr neillduedig yn eu plith oedd a gofal llên, dysg a chrefydd arnynt. Tyfodd felly yn fore ganddynt gelf y bardd a'r cerddor, a cheir tystion ddigon o hynny o'r tuallan i fyd y Celt ei hun. Sonia Marcellinus yn y bedwaredd ganrif o oed Crist am y Bardi, Euhages a'r Drasidas (Druidae) oedd gan y Celt. Cyfeiria Strabo at y Bardoi, Ouateis a'r Druidai, a chyfeiri Diodorus o Sicily yn oes Iwl Caisar at y Druidai (h.y. y Philosophoi a'r Theologoi) a'r Manteis. Gwyddai Iwl Caisar am y Celt a threfn ei gymdeithas gystal a neb o'r tu allan, ac nid rhyfedd gan fod y derwydd enwog Diviciacus ag yntau