Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyfeillion. Rhannai Caisar gymdeithas y Celt rhwng y Druides a'r Equites. Gwelodd Caisar ddosbarth pwysig arall yn eu plith sef y Gutvatri: y gwyr oedd a gofal crefydd arnynt. Nid yw Caisar yn son am y beirdd, ond y mae'n amlwg fod y bardd a'r derwydd yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd a gwyr llên yn hytrach na gwyr crefydd oeddynt yn ei olwg ef yn bennaf. Aeth hynny dros gof gan lawer wrth son am y Derwyddon. Dywedir wrthym mai yr un gair yw yr ouateis (neu vates) uchod a'r gair Cymraeg "gwawd" (song, satire), ac a'r Wyddeleg faith (poet); a'r un gair, meddir, yw "bardd" a'r bardoi, a "derwydd" a'r druidai neu'r druidoi. Aeth bardo—cucullus (cwcwll bardd) yn ddihareb yn yr hen fyd, a thueddir dyn i dybio ar bwys hyn a phethau tebyg, fod beirdd y Celt yn gwisgo yn wahanol i bobl eraill. Tybia Dr Pokorny mai yr un gair yw bardus a barba (barf) yn y bon, a bod hynny hefyd yn nod wahanol ganddynt rywbryd. Bid a fo am hynny—yr oedd y beirdd yn wyr mawr gan y Celt gynt; a pha faint bynnag fu'r newid ar eu safle a'u diwylliant, pery rhai o'r hen enwau a'r nodweddion gynt hyd y dydd heddyw. Pery ystyr yr enwau hefyd yn ddigon agos i'w hystyr gynt i ddyn eu hadnabod, a gweld na thorrwyd llin a ffun traddodiad gan ddwyfil o flynyddoedd er y newid mynych a chwyrn fu arnynt. Nid oedd dichon gwahanu'r bardd a'r derwydd gynt, a bu felly tra bu bardd a derwydd. Os cedwir hyn mewn cof, ceir syniad am y bri oedd ar ddiwylliant gan y Celt gynt, oblegyd yr oedd y derwydd yn rhydd o dalu treth, a rhydd hefyd o wasanaeth milwrol; a pha deyrnged uwch allai milwyr dewr dalu i ddiwylliant meddwl na hyn? Dilynnodd Rhufain y Celt yn hyn ymhen amser, ond efe agorodd y llwybr. Oherwydd y bri oedd ar ddysg tyrrai meibion, o fodd neu drwy gymell rhieni, i ymuno a'r derwyddon.

Yn ysgolion y Celt nid oedd na llyfr, peithynen na chlawr iraid—rhaid oedd i'r disgyblion ddysgu'r cyfan ar gof. Sonnir am ugain mlynedd o ysgol a chofio ugain mil o linellau, a gallu eu hadrodd. Ni wn i ai'r bardd ai'r derwydd ganai'r