Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llinellau hyn: pa un bynag wnai, yr oedd perthynas agos iawn rhwng y naill a'r llall. Yr oedd barddoniaeth a diwylliant felly a'u gwreiddiau wedi eu nyddu'n dyn am fywyd yr hen Gelt. Codir cwr y llen yn awr ag eilwaith, a gwelir yn amlwg, er i'r bardd godi a gostwng yng ngolwg cymdeithas, ei fod o'r bore cyntaf hyd heddyw yn un o wyr amlwg y Celt, ag yn un o arloeswyr diwylliant Ewrob.

Fe geir hen femrwn mawr yn y Royal Irish Academy, Dublin o'r enw Memrwn Ballymote wedi ei ysgrifennu tua 1400 0.c. Ceir ynddo draethawd manwl ar feirdd a cherdd dafod y Gwyddyl. Casglodd Dr R. Thurneysen hwn a thraethodau tebyg sydd ar wasgar yn ei Mittelirische Verselehren (Irische Texte, III, i, td. 1—182). Cyhoeddod Dr G. Calder argraffiad a chyfieithad i'r Saesneg o hono dan yr enw Auraicept na n'Eces (Edinburgh, 1917). Ceir llawer o bethau eraill ar hanes beirdd a barddoniaeth yn yr Iwerddon, ond ni raid mynd ymhellach na hyn cyn gweld y lle mawr oedd i ddiwylliant o'r fath yno, ac mai cynyddu yn hytrach na lleihau wnaethai y pethau oedd mor amlwg ym mywyd yr hen Gelt gyda threigl canrifoedd. Ym Memrwn y Ballymote ceir dwy urdd o feirdd ag wyth adran ymhob urdd, a phob bardd yn yr un dosbarth ar bymtheg hyn a'i fesur cerdd penodol iddo ei hun. Ceir yn y llyfr dros dri chant o enwau mesurau cerdd dafod gwahanol. Yng Nghymru'r canol oesoedd hefyd, ceir lliaws o wahanol enwau ar feirdd o wahanol urdd a gradd, ond nad aeth neb i'r drafferth o'u casglu. Gwir ddigon i Sion Dafydd Rhys ddweyd fod wyth ryw gerddawr, ond diweddar iawn yw amryw o'r enwau geir ganddo ef a rhai ohonynt yn enwau benthyg newydd. Yn fynych, trefnir hwy yn drioedd, ond wedi casglu'r trioedd hyn at ei gilydd, y maent mor gymhleth, ac enwau'r beirdd yn amrywio gymaint yn eu hystyr o oes i oes, a safle'r beirdd mewn cymdeithas yn newid, nes nad oes modd cael diben na dosben arnynt. Wrth chwilio eu hanes, rhaid i ddyn gerdded mor ofalus a gwr troednoeth mewn ysgall.

Tebyg yw hi yn hanes beirdd gwledydd eraill yn yr hen