Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfnodau. Casglodd Dr W. Grossmann (Frühmittelenglische Zeugnisse über Minstrels, 1100—1400 A.D., Bamberg, 1906) yr enwau geir ar y "Minstrel" yn Ffrainc, Lloeger a'r Almaen mewn pedwar llyfr, a chafodd tua hanner cant o enwau ar yr un cerddor hwn yn unig. Difriwyd beirdd Cymru yn Cymru, 1896, am fethu o honynt wybod beth oedd ystyr a safle derwydd, cylfardd, bardd teulu, etc., a'u perthynas ai gilydd, ond buasai yn wyrth pe gallent hynny. Ysywaeth, yr ydym heddyw mor bell ag erioed o allu gwneud, a rhaid gweithio yn hir a dyfal cyn bod gobaith cael trefn ar y tryblith. Sonia memrwn hynaf Cyfraith Hywel Dda am "bencerdd," "bardd cadeiriol" a "bardd teulu," ond ni wyr neb pwy ydynt, na pham y galwyd felly, na pha enwau eraill sydd arnynt. Cyfeiriai Gwyr Gwynedd gynt yn fynych at Ystadud Gruffydd ab Cynan fel un o bethau pendant Cerdd Dafod. Yno cyferfydd dyn ag amryw drioedd yn ol yr arfer—disgybl ysbas, disgybl disgyblaidd a disgybl pencerddaidd; pencerdd, prydydd, a mab prydydd; tincerdd, disgybl, a phencerdd; yn ogystal ag "anant" a cherddwyr tafod a thant. Heblaw y rhai hyn, cyferfydd dyn ag awenydd a menestr, gwallofiad a disteyn; ac er mai anfynych y bydd yr un o honynt yn y trioedd, y maent yn perthyn i'r beirdd rywfodd neu gilydd. Bu farw Gruffydd tua 1137 O.C., ac y mae ei fuchedd gennym, ond nid oes son am yr Ystadud na threfn y beirdd yndi. Ofer hefyd chwilio hen lên Cymru am rai o feirdd yr Ystadud—rhai newydd a dieithr ydynt. Pe bai'r Ystadud yn hen a dilys, nid ei hamcan hi oedd rhoi hanes trefn y beirdd gynt, yn hytrach ddadrys anhrefn a llunio trefn newydd ar gyfer y dyfodol. Yn yr Iwerddon bu beirdd De a Gogledd grafanc yng nghrafanc gan eiddigedd at ei gilydd am ganrifoedd, a fflamiodd yr eiddigedd yn goelcerth yn yr ail ganrif ar bymtheg yng Nghynen y Beirdd. Tebyg fu hanes Cymru—dechreuodd ymrafael rhwng De a Gogledd yn fore, chwithwyd y rhes yn fflam ar ol Eisteddfod fawr Caerfyrddin yn 1451, aeth y fflam yn goelcerth tua Eisteddfod Caerfyrddin 1817, ac yr ydym ninnau yn ymdrybaeddu