yn lludw'r goelcerth heddyw. Digon tebyg mai rhan o Gynnen y Beirdd yw Ystadud Gruffydd fel y gwelodd Iolo Morganwg (Cyfrinach y Beirdd, 117-8). Pe buasai'r Ystadud yn perthyn i oes Gruffydd fel yr honnid, ychwanegu at yr anhrefn wnaethai, gan fod trefn beirdd Cymru yn oes Gruffudd, a barnu oddiwrth eu gwaith, yn anhebyg i drefn yr Ystadud. Ofer yw pwyso ar yr Ystadud felly.
Dywed traddodiad y De mai Ceraint Fardd Glas o'r Gadair luniodd gynghanedd gyntaf yng Nghymru, ond y mae mil o flynyddoedd oddiar amser Ceraint, ac nid yw ei waith ef ar glawr bellach. Y Gramadeg hynaf ar gael, meddir, yw'r un elwir yn Ramadeg Edeyrn Dafod Aur neu Ramadeg Llyfr Coch Hergest. Y mae memrwn y Gramadeg hwn yn perthyn i'r un oes yn union a memrwn Ballymote y Gwyddel, ond y mae yna gyfandir o wahaniaeth rhwng darlun y naill o feirdd a mesurau cerdd dafod Cymru, a darlun y llall o'r Iwerddon. Nid oes ond y dim lleiaf yn gyffredin rhyngddynty mae enwau'r beirdd a'u mesurau yn wahanol iawn, eiddo'r Iwerddon yn ymddangos yn hen, a rhai Cymru yn amlwg yn newydd. Yng Ngramadeg Edeyrn clerwriaeth a theuluwriaeth a phrydyddiaeth yw tair cainc "cerdd dafod." Y mae'r "bardd," y "derwydd" a hen enwau felly yn ysgymun a'r "clerwr" a'r "prydydd" yn y gadair yn eu lle. Nid oes yma son am y tri rhyw ddisgybl a welsom yn Ystadud Gruffydd. Rhaid bod disgyblion wrth reswm, ond perthyn i'r ysgol Lladin a'r eglwys oedd disgybl, a gair newydd oedd ym myd bardd. Yr oedd ysgol y beirdd ar wahan yng Nghymru fel yn yr Iwerddon, ond yn anffodus ni cheir darlun o ysgol beirdd Cymru fel y darlun geir ym Memoirs Clanricarde o ysgol beirdd yr Iwerddon, neu'r hanes geir yn Hidden Ireland gan Dan Corkery.
Bid a fo, ni ellir troi dalen o hen lên Cymru heb weld. ysgyrion o hen drefn addysg a diwylliant y beirdd y tuallan i'r Eglwys. Cyfeirir yn fynych at gyfraith Hywel Dda fel tyst am drefn beirdd Cymru, ond anghofir nad rhoi trefn ar ddiwylliant gwlad, ond gofalu am gyfrifon a