difyrrwch llys y Brenin oed amcan son am y beirdd yno—darn o gyfraith swyddogion y llys yw yr hyn geir am y pencerdd a'r bardd. Yn ol Cyfraith Prydain tebyg mai dim ond un bardd sydd ym Mhrydain Fawr—y Poet Laureate; ond dywedodd Mr John Freeman ar y wireless yn Ionor: "If the Royal Academy were to arrange a spring exhibition of modern poets the walls would be crowded with their effigies and the floor with their admirers."
Nid gwaith Ystadud Gruffyd, mwy na Chyfraith Hywel, oedd rhoi hanes Beirdd Cymru. Yn hytrach ol ysfa rhywun ydyw am wneud trefn a dosbarth ar dryblith yr oes, ac edrych ymlaen yn hytrach nag yn ol wneir. Os myn neb felly, wybod hanes diwylliant a lle'r beirdd yny wlad, ofer yw pwyso ar Gyfraith Hywel ac oferach na hynny yw rhoi llawer o goel ar ramadeg Edeyrn ac Ystadud Gruffydd ab Cynan. Rhaid casglu enwau crefft y beird ymhlith ysborion y canrifoedd y tuallan i'r pethau uchod—gwrando ar yr hen feirdd yn canu, yn hytrach nag ar hen feirniaid yn cogor a chynhennu.
Yn ol gramadeg Edeyrn Dafod Aur a Cherdd Dafod Syr J. Morris—Jones, pedwar mesur ar hugain oed gan feirdd Cymru, ond yn ol memrwn y Ballymote ceir dros drichant o enwau mesurau beirdd yr Iwerddon. Ychydig iawn o enwau'r pedwar mesur ar hugain sydd yn debyg i enwau mesurau'r Gwyddyl; i'r gwrthwyneb, ceir llu o enwau hen fesurau Cymru heb fod yn y gramadegau o Edeyrn i Gerdd Dafod o gwbl, ac eto y mae llawer o honynt yn cyfateb mewn ffurf ag ystyr i hen eiriau crefft yr Iwerddon er nad ydynt yn llyfrau crefft beirdd Cymru o gwbl. Ychwaneger at hyn fod llawer o'r enwau drinir fel hen enwau Cymraeg yn Edeyrn a Cherdd Dafod Syr John a delw a bath enwau mesurau estronol arnynt.
Gwaith blin a dyrys iawn felly yw ceisio dadrys hen enwau gwahanol raddau o feirdd a geiriau eu crefft, ni anelir yma onid at ddechreu agor y grwn—bydd digon o waith i lawer gwedd eto cyn ir gwndwn ddyfod yn dir âr.
Ysgrifennwyd llawer ar ddosbarth a chyfrinach Beirdd