Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymru, ond ysywaeth aeth yr ysfa am gael y ty dan do yn drech na rhai cyn cloddio sail briodol iddo; daeth eraill a thorri'r ffenestr yn hytrach na cheisio agor y drws. Y mae'n amlwg mai'r unig ffordd yw dechreu o'r newydd. Y mae gennym ddigon o ddefnyddiau a thradodiadau, ond nid oes gennym offer priodol i'w trin, a gwaith deir iawn yw paratoi y rhai hynny.

Traddodiad Gwent oedd rhetoreg a chyfraith a hen ddysg; traddodiad Buellt oedd cof gwlad a brut; traddodiad Powys oedd llên a llyfr; traddodiad Dyfed oedd hengerdd a mabinogi; a thradodiad Gwynedd oedd ymladd. Rhaid gwybod rhyw dipyn am bob un o'r traddodiadau hyn a llawer iawn am rai o honynt cyn bod gennym obaith am ddim gwerth ei gael o gyfrinach yr un ohonynt. Heblaw hynny, rhaid gwybod llawer am draddodiadau llenyddol a chymdeithasol Ewrob y cyfnod yr ysbryd oedd yn chwythu lle y mynnai ag yn deffro telyneg yma, cywydd fan draw, emyn fan arall neu fabinogi, yn ol fel yr oedd teithi gwlad yn ateb cyffro'r ysbryd. Nid oes dichon adnabod Cymru heb edrych dros y pedwar gorwel a gwrando ar sibrydion y pedwar gwynt yn dod a neges newydd o'r gwledydd tuhwnt.

Soniwyd eisoes fod gwyr Groeg a Rhufain wedi sylwi ar "fardd" a "derwydd" a "gwawd" y Celt gynt, a chofir fod "Gorsedd y Beirdd" hithau yn son am "Fardd, Derwydd ag Ofydd"; ond nid rhaid fod dim yn gyffredin rhwng Beirdd a Derwyddon yr hen fyd ag eiddo "Gorsedd y Beirdd"—nid rhaid ychwaith iddynt fod namyn deupen yr un hen drad— dodiad. Gair Groeg ydyw "emyn" yn y bon, ond nid oes odid ddim yn gyffredin rhwng emynau Homer ag emynau Pantycelyn. Holltodd gwyr Ffrainc y gair "emyn" yn ddau, cadwyd emyn Groeg yn air gwrywaidd ag emyn yr Eglwys yn air benywaidd yn dyst o'r gwahaniaeth. Gair y Groegwr yw "diafol," ond rhaid wrth linyn mesur hwy na eiddo Jeremia i gyraedd o ddiafol Groeg i ddiafol dieflig y Canoloesoedd. Felly am fardd Cymru—rhaid sylwi ar dreigl geiriau gyda threigl amser neu ofer fydd yr ymchwil i