gyd. Ofer fydd credu dim, ag oferach fydd gwadu dim hefyd.
Yn nhraddodiadau Cymru ceir y "bardd" weithiau o flaen y "prydydd," weithiau eraill wrth ei ysgil. Yn yr Iwerddon gwyr blaen llên yw'r filé a'r ollam (olaf). O ba le y daeth "prydydd" Cymru a filé y Gwyddyl, y ddau ddosbarth blaenaf, oblegyd nid yw gwyr Groeg a Rhufain yn son am danynt wrth yr enwau hyn. Nid yw "prydydd" Cymru yn adnabyddus yn yr Iwerddon na'r filé a'r olaf yng Nghymru, ac eto y maent yn hen sefydliadau yn ein plith ni a'r Gwyddyl, a'u lle mewn cymdeithas yn debyg iawn i'w gilydd. Y mae'r hyn sydd wir am y "prydydd" a'r filé yn wir hefyd am lawer iawn o enwau'r beirdd yn ein plith.
Y BARDD
Y mae'r gair "bardd" mor hen fel na wyr neb ei ach a'i deulu, ac y mae ei ystyr mor gudd a hynny drwy'r newid fu arno o oes i oes. Yr oedd y beirdd gynt yn gymdeithas gyfyng fel y Derwyddon. Yn ol Cyfraith Hywel Dda, nid rhydd i fab taeog ddysgu "gofanaeth a barddoni." Yn ol Gr. Roberts, Milan (td. 204—6):
"Gwell i'r Cymru, medd y disgybl, geissio addysg ar dafod leferydd gen y prydyddion sy'n i mysg a chen fagod o wyr Boneddigion, sydd gyfarwydd yn y cyn— ghaneddau,... Pe dysgai'r prydyddion, medd yr athro, yn rhowiog, i bawb, a ddelai attynt, mi a ddoedwn gidachwi. Ond am i bod nhwy yn cadw i celfyddid yn ddirgel, heb i damlewychu i neb, oddieithr, i ryw ddyscybl, a dyngo, na ddysco moni i neb arall, ne i ymbell wr bonheddig, a adawo ar i onestrwydd, i chadw yn gyfrinachol, rhaid i ryw ddyn arall i honni, ai gossod allan, os mynnir i thanu, dros wyneb y wlad, etc."
Hanes tebyg geir gan S. D. Rhys:
"Y prydyddion wrth fod yn gymaint eu hawydd i geisio cadw dirgelion a rhinoedd yr iaith a'r brydyddiaeth