Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn eu plith eu hunain, ac wrth ymddieithrio pawb ohonynt oddiwrth ei gilyd rhag i rai o naddynt drarhagori arr y lleill; ef a ddarfu iddynt nid yn unic ddifa'r iaith a'r brydyddiaeth, onyd hefyd colli ein hen fraint, ar hen vrddas a oed ddylyedic o gyfiawnder iddynt. A thra yttoeddynt yn cynfigennu wrth eraill, rhac ymgyfarfod o neb o honynt a'i gwybodaeth ac a'i cynhildeb hwy, y lladdodd cenfigen ei pherchen."

Heblaw hyn, hen enw ar ddysg crefft y bardd ydyw "cyfrinach y beirdd."

Fel hyn y dywed Robert Lindsay o Pitscottie yn ei ragdraeth gwerthfawr i Memoirs Clanricarde, A.D. 1722, td. CLVIII:

"Concerning the poetical seminary, or school,...it was open only to such as were descended of poets, and reputed within their tribes; and so was it with all the schools of that kind in the nation, being equal to the number of families, that followed the said calling."

Yr oedd swydd bardd yn etifeddol yn yr Iwerddon, am hynny ceir enwau teuluol fel Mc Eward, Mc Ewards, Mc Evarde, h.y. ap bardd. Nid ychydig a gweiniaid oedd y beirdd ond yr oeddynt yn llu mawr iawn. Dywedir fod pymtheg mil yn yr Iwerddon yn amser anghynwys Drum Ceatt yn 590 A.D. pan alltudiwyd hwy o'r wlad (Auraicept, xx). Ceir rheolau caeth ynglyn a hyd yn oed dillat hen feirdd yr Iwerddon (gwel Brehon Laws, II, 147—9). Nid rhyfedd, oblegyd yr oedd yn urdd ag iddi adrannau amryw, a'r urdd yn nesaf at deulu'r llys.

Rhaid oedd i ddyn yng Nghymru brofi ei "farddrin" fel Taliesin, a rhaid iddo newid ei wisg deirgwaith, fel hebog yn bwrw ei bluf ac nid oedd yr urdd yn hollol etifeddol.

Ond beth oedd ystyr y gair "bardd" yng Nghymru? Yn Zeuss 1070 ceir hen air Cernyweg yn dweyd mae'r gair am tuba oedd "hirgorn," ac mae enw'r gwr a'i canai oedd "bardd hirgorn." Yn ol yr un hen femrwn, ystyr "bardd" oedd scurra neu mimus h.y. gwehilion hen circus Rhufain.