Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr enw ganddo ar poeta oedd "prydydd," ac felly yr oedd y "bardd" a'r "prydydd" yn perthyn i ddau eithafion ganddo. Pan ddywed Taliesin ei fod ef yn ddewin a phrifardd cyffredin, a'i gyda'r scurra a'r ysgubion y ceir ef, neu yntau gyda'r poetau diwylliedig? Rhaid cofio serch hynny fod rhai yn edrych ar y poetae hefyd fel magi [wizards, enchanters, etc. "Poete vel Magi Spiritu immurido," Norden, 689.]

Yn ol Lucanius, gwaith bardd y Celt oedd canu mawl arwr neu arwyr rhyfel. Pan eilw R. Goch ap Rhicert yr ehedydd yn fardd boreuddydd, yr oedd yn defnyddio yr un enw ymron arno a'i hen enw oesoedd cyn hynny y bardala (Stokes, Urk. 162). Gelwir cloch rhyw hen Wyddel yn bardan oherwydd ei llais melys, a sonnid yng Nghymru gynt am "music beirddion." Cyfansoddai'r bardd ei gan, datganai hi, a chanai'r crwth yn gyfeiliant yr un pryd. Pa ystyr bynag oedd i'r gair "canu" gynt, gwaith bardd o ryw radd neu gilydd oedd hynny. Gyda threigl amser gwahanwyd gwaith y bardd i "gerdd dafod" a "cherdd dant" a rhannwyd hynny drachefn. Fel rheol heddyw cyfansoddu y geiriau yn unig wna'r bardd—arall sy'n llunio'r gerdd, arall yn datganu, ac arall drachefn yn cyfeilio. Er bod enw gwahanol ar y bardd wrth wneud pob un o'r rhai hyn—un bardd ac nid pedwar math o feirdd ydoedd. Ar ol y rhannu graddol, aeth rhai o'r beirdd i'r circus gyda'r scurra a'r mimus, a dringodd eraill i fainc yr ynad a'r trysorlys, a rhaid cofio hyn wrth gyfarfod a'r gair "bardd" yng Nghymraeg y Canol Oesoedd.

Pan sonia gwyr Dyfed am ganmol rhywun, "rhico dáge" (rhico gydag ef) ddywedir. Yn ol Anwyl, ystyr "rhico" yw to tear, to boast, ond cynneu canwyll frwmstan yw hynny a rhoi mwg yn lle goleu. Y gair Saesneg rick, wrick yw "rhico" (to tear), ond hen air crefft bardd yw "rhico" (to praise). Gwyr y Gwyddel yn dda am y reacaire, y gwr oedd yn canu cerddi mawl y beirdd, a llanwai le amlwg iawn yng Nghymru gynt fel yn yr Iwerddon ond iddo golli ei enw ynghynt yma nag yno.

Yr oedd yna ryw fferyllydd gwenwynllyd o'r enw Thomas