profession is to set foorth the praises or dispraises of men in their poems or rymes....their verses are...usually sung by certayne other persons whose proper function that is, who also receive for the same great rewards and reputation amongst them."
Cystal a dim yw yr hanes diddorol geir yn Memoirs Clanricarde, td. CLXVII. Yr oedd y rakry neu'r reacaire yn swyddog pwysig felly, ac i'r sawl fyn wybod ychwaneg am y gair ceir ei hanes gan Dr Bergin yn Jour. Iver. Soc. 1913, td. 159; Ossianic Soc. Great Bard. Inst. td. 112—3. Gelwid y rakry yn bard yn yr Iwerddon, a "bardd" oedd yng Nghymru. Rhwng y cwbl ceir cip ar "fardd" y Cymro a'r Gwyddel yn ei wahanol ystyron a'r gwahaniaeth rhyngddo a bard y Sais. Beth ddigwyddodd i rakry Cymru? A oes arno ryw enw heblaw "bardd" yma? Mor bell yn ol ag Athenaeus yn yr ail Ganrif, yr oed y beirdd yn dilyn byddin y Celt i ganmol gwroniaid y frwydyr, a rhaid bod y Cymro felly fel y Gwyddel yn ei adnabod yn dda. Y mae'r gair rhogri geir yn Nyfed am blarney yn debyg iawn i rakry ond nid oes dichon ei ddatod oddiwrth roguery a "rhagrith" yno. Er hynny ceir digon o olion yr enw mewn llyfr ag ar lafar. Y mae'r gair riceus yn englynion y Juvencus wedi peri llawer o drafferth, ond y mae yn ddios gennyf mai yr un gair ydyw a "rhico" gwyr Dyfed. Ceir y gair "rheg" gan yr hen feirdd yn fynych am curse a praise, yn union fel y ceir "gwawd" am song a mockery—dau linyn bwa pob bardd, a phan dorrai'r naill tynnid y llall hyd fon yr ysgwydd, ac anfynych y methai'r saeth gyraed y nod. Cymerer y llinell hon o RBP. 1, 1271, 37:
"Ni wnaeth doli rec yw vireinllys dec"
(He did not stint praise)
neu hon o RBP. 1, 1215, 18:
"Keingheu pader krist; regeu diathrist"
gair y cerddor am ganu oedd "keinc" (gwel Eckert, td. 15—17).