Ceir y gair "rheg" yn yr un ystyr yn "atreg" (gwel Iolo Goch, 92, 41):
"Trebl a chwafrebl awch atreg: a byrdwn cyson ton teg" Ceir "rheg" hefyd fel darn o "ymatreg." Yn y Myv. Arch. 123—4; a RBP. 1, 6, ceir hyn fel teitl i ddegarhugain o englynion: "Ymatreg Llywelyn a Gwrnerth." "Deusant duwyaul yny Trallwng" oedd y ddau wr hyn a chanmol ei gilyd mewn englynion wneir yny tribanau. Dywed y Myv. Arch. mai Tyssiliaw a ganodd yr englynion ond dywed y RBP. mai eu cael ac nid eu canu wnaeth, ac y mae hynny yn llawer gwell. Odid nad brawd arall i'r gair yw "anrheg." Ceir "anrheg" am tribute of food or money (gwel Wotton, Law Gloss. 555; Lewis, Gloss. s.v. anrec) ond ceir ef hefyd am tribute of song yn Anrec Urien gan Taliesin (gwel Myv. Arch. 46—7; RBP. 17) un enw ar y rakry yng Nghymru, mi goeliaf, oedd "rhegofydd":
"Rec ouyt oetwn ce (oe?) daeoni" (RBP. II, 228, 43).
(I used to sing songs of his goodness.)
Fel y ceir gweld nol llaw, ystyr "ofydd" oedd maker of poems, ac y mae yn ddilys gennyfi mai yr un "rec" sydd yn "rhegofydd" ag yn reacaire y Gwyddel. Esboniwyd y gair, mae'n wir, fel "rheg" + "ddofydd" (arbiter of largesse) gan Loth yn Rev. Celt. IX, 274; fel gift of God gan Anwyl yn Rev. Celt. 1913, 155; ac fel lord of gifts yn W.G. 180. Ysywaith y gair" dofydd" oedd wedi eu llygatynnu ond llygriado" ofydd' yw "dofydd," fel y ceir gweld. Nid yn unig ceir "rhegofydd" ond ceir yr un elfennau mewn trefn arall yn "gofreg."
Y mae yn ddiau gennyf i mai gair wedi ei seilio ar y "rheg" yma yw'r gair "araith" (song); pan sonia Dafydd ab Gwilym am "araith y fronfraith" meddwl y mae am ei chanu. Felly Taliesin ai "areith awdyl eglur" (Llyfr Tal. 34, 15) Areith Taliesin lif dewin, 80, 5. Yng Nghymru, collodd y cerddor y gair ac aeth y siaradwr ag ef, ond geilw'r Gwyddel ei wyl gerddorol yn Oireachtas, a brawd i'r gair "araeth" yw hwnnw. Gorfu ar y cerddor greu gair newydd