am y reacaire, a'r gair mwyaf cyffredin oedd "datceiniad" neu "adceiniad," ond ceir "atebwr" hefyd (gwel S. D. Rhŷs, td. 304). Dywed S. D. Rhys y dylai pob datceiniad: "fedru gwasanaethu oddiwrth y gegin i fort gwr o vrddas ac enrhydedd, a thorri pob rhyw ederyn a ddelo ger ei fron" ond nid yw hynny yn ddim ond dangos fod y "datceiniad" a'r rakry yn cynrychioli dysteyn a menester yr oesoedd o'r blaen. Nid anfri ond bri oedd cael torri bwyd felly. Dengys Prompt. Par. 273, ymryson pendefigion am swydd carver. Rhannesid y gwaith, ond er ei rannu, yr oedd pob adran yn mynnu cadw yr hen enwau a newid eu hystyr i'w cylch newydd hwy eu hunain. Ond yn raddol aeth llu o'r hen eiriau hyn i'r niwl, ac yn y diwedd ar goll a neb yn eu hadnabod. Heddyw, nid oes gennym yr un gair arferedig am poetry ond "barddoni," "barddoniaeth," "prydyddiaeth"—hen eiriau cras, diawen, heb eu llyfnu gan amser na'u caboli gan hir arfer gwlad. Yn wir, geiriau yw y rhai hyn am poetry y Sais, yn hytrach nag am waith hen feirdd Cymru a'r Iwerddon cyn rhannu eu gwaith. Sonnir am "arwydd— fardd," "bargodfardd," "bardd neuadd," "bardd beli," "bardd caw," "cylfardd," "cyrchinfardd," "hwylfardd," "posfardd," "pastynfardd," a llu eraill; ond ni wna'r gair "barddoniaeth" ond prin gyffwrdd a gwaith y rhai hyn. Yn ol S. D. Rhys, yr arwyddfardd "odidocaf a phennaf a pherpheithiaf (a hynny yn ddiamheu) y bernir Tomas Sion, alias Moetheu, o Borth y Phynnon, yn ymyl Tref Garon: (Thomas Jones of Fountayn Gate). A phan ddarpho am dano, ef a fydd ddigon petrus y ddamwain allu o hono yr hawc, 'adu yn ei ol un cymhar iddo'." Ond ychydig fuasai yn cofio wrth ddarllen yr uchod mai enw Cymru ar "Thomas Jones" heddywy dyw "Twm Shon Catti" a neb yn cofio am ei "odidogion gerddeu."
Dywedasom fod un adran ar bymtheg yn perthyn i urdd beirdd yr Iwerddon, a rhaid bod rhywbeth tebyg yng Nghymru, ond y mae yn anodd iawn cofio hynny oddiar pan aeth "bardd" y Cymro yn gyfystyr a bard y Sais.