Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR OFYDD

Cyfeiriasom uchod at y "rhegofydd"—y rakry a'r maker of praise. Nid oes nemor i air wedi peri cymaint o benbleth a chwerwder yng nghof neb a'r gair "ofydd." Credai gwyr Gorsedd y Beirdd mai enw ar yr ail radd o feirdd Cymru gynt oedd "ofydd." Gwyddent yn dda mai "Ofydd" oedd enw Cymru ar y bardd Ovid fuasai mewn cymaint o fri yma gynt; ond tybiai rhai o honynt mai gair arall oedd "ofydd" yr Orsedd, a bod hwnnw yn cyfateb feallai i ouateis—enw gwyr Groeg ar ddosbarth o feirdd y Celt gynt. Camgymeriad ond camgymeriad digon diniwed—oedd hynny yn ddios. Yn 1877 cyhoeddodd yr athro John Rhŷs yn ei Welsh Philology esboniad oedd yn ymddangos yn derfynol ar y gair "ofydd." Dywedir yn Welsh Phil. arg. 2, td. 293—9, mai yr un gair yw "ofydd" beirdd Cymru a ogam, enw ar hen ddull o ysgrifennu ar gerrig yn yr Iwerddon. Gan fod Rhŷs wedi bod yn fflangellu Gomeromaniacs Cymru, fel y galwai yr ysgol draddodiadol a dilynwyr Pezron, yn ddidostur o Aberystwyth i Birkenhead y blynyddoedd hynny; yr oedd. hefyd wedi dechreu defnyddio Sanskrit ei hen athro Benfey o Göttingen i beri i hen gerrig nadd Cymru ddweyd eu cyfrinach, a gadawodd ei eiriau argraff ddofn iawn ar feddwl y wlad. Ymhen tuag ugain mlynedd ar ol hynny, dangosodd Whitley Stokes yn ei Urkeltischer Sprachschatz, td. 49, fod anhawsder anorfod ar ffordd derbyn esboniad Rhŷs, ond nid oedd beirdd Cymru yn darllen Ellmyneg Stokes. Cyn gwybod am farn Stokes a chyn gwella ar ol ergydion Rhŷs, wele'r athro J. Morris Jones yn "Cymru," 1896, td. 136—41, yn tystio nad yw "ofydd" y beirdd onid llygriad o'r gair dofydd," ac yn dweyd yn bendant iawn mai twyll noeth y beirdd oedd cyfrif "ofydd" yn wr gradd Gorsed (td. 140). Yn ol Geiriadur Dr Davies, Mallwyd, ystyr "dofydd" yw tamer a gair y beirdd am Dduw ydyw. Nid yw Dr Davies yn esbonio "ofydd." Dilynwyd Dr Davies yn hyn gan lawer o ysgolheigion a derbyn ei air heb holi. Yng Ngeiriadur y