Bardd dywed Cynddelw mai ystyr "ofydd" oedd "celfwr," ac yr ydym yn derbyn ei farn yn hyn yn ddibetrus. Ceir "dofydd" droion yn Llyfr Taliesin, ond duw fel maker, creator yn hytrach na fel tamer ydyw yno. Ceir gan Cynddelw hefyd "gofydd" yn gyfystyr ag "ofydd" a "gof." Ceir "ofydd" yn fynych gan yr hen feirdd, a defnyddir ef heddyw fel rhan o eiriau deupen—cad—ofydd, gall—ofydd, etc., etc. Pethau diweddar yw y rhai hyn, mae'n wir, ac ni chaent fod yn dyst er dim yma onibai eu bod yn cadw yn fyw hen draddodiadau. Yn ol Cymru, 1896, llygriad oedd "ofydd" o "dofydd" a tamer, a thwyll ynglwm wrth y llygriad hwn oedd "Ofydd" y beirdd. Ysywaeth, fel arall y bu—"dofydd" yw'r llygriad. Nid hanu o "dofydd" wna'r "ofydd" yn "rhegofydd," "cerddofydd," "credofydd," etc. ond yn hytrach o "gofydd," a thebyg gennyfi mai brodyr iddo yw geiriau fel "gofan" a "gofeg" geir mor fynych gan yr hen feirdd.
Ni wyr neb, mae'n debyg, ach na hanes y gair "gof" smith, rhagor na bod goba, gobann y Gwyddyl yn frawd iddo (gwel Pedersen, II, 112). Ni wyr neb am dano ychwaith y tuallan i iaith y Celt. Ystyr gyffredin y gair "gof" a goba y Gwyddel yw smith, wright; ond fel y sylwodd Dr. Thurneysen yn ei Heldensage, td. 70, yr oedd "gofaint" yr Iwerddon ymhlith y beirdd. Erbyn sylwi, felly yr oedd yng Nghymru hefyd. Yn ol hen draddodiad Tubal Cain y gof luniodd fesur cerdd gyntaf a'i forthwyl ar yr eingion, a gwreiddiodd yr hen draddodiad yn ddwfn yng Nghymru. (Dylid cofio mai "gofaeth" yw'r enw roir ar ei grefft, ac nid "gofanaeth" gwel Reports, 1, 922.)
Defnyddiai'r Gwyddyl yr un gair cerd am "of," "crochenydd" a "bardd," Stokes, Urk. Spr. 80. Yn rhol Eisteddfod Caerwys, dywedir "llawer o wahaniaeth ysydd rhwng gwneuthuriawdr ag atgeiniad, canys gwneuthuriawdr a wyr gwneuthur peth ac atgeiniad ysydd yn canu peth." Y bardd a'r rhegofydd yw y ddau hyn ond wedi cael enwau newydd, oblegyd cyfieithiad amlwg yw "gwneuthuriawdr" o poeta,