Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu o maker y Sais ac wedi ei ddewis er mwyn gwahaniaethu rhyngddo ef a'r rakry. Troer drachefn at arfer y Sais; yn Cursor Mundi, A.D. 1300, ystyr maker ar ei ben ei hun ydyw "Creator of the Universe." Yn yr un ganrif dywedir am Chaucer "Chaucer passeth al other makers" lle y mae'r gair yn sefyll yn amlwg am dano fel bardd. Mor ddiweddar a Syr Walter Scott, gelwir. Chaucer yn yr Alban "the English maker."

Pan eilw beirdd Cymru gleddyf yn "galofydd" RBP. II, 283, 22; 186, 59; 284, 10; edrych ar y cleddyf wnant fel maker of enmity yn hytrach nag fel tamer o unmath. Ystyr debyg sydd gan Dafydd ab Gwilym wrth ddefnyddio "cynofydd cerdd," 239, 7 (foremost maker of song). Defnyddia beirdd Cymru y gair "delwad" creator yn union yr un fath, a cheir cynddelw, cynnelw fel cynofydd ag ystyr y ddau yn debyg.

Y mae toraeth o dystion yng ngwaith hen feirdd Cymru eu bod hwy fel pawb arall yn y Canol Oesoedd yn defnyddio yr un gair am "fardd" a "chrewr"—boed ei gread yn fyd yn faled neu'n fidog. Dywedwyd lawer gwaith yn ddiweddar fod crefft y gof yn uchel ei bri yng Nghymru Hywel Dda. Gellid profi'r gwrthwyneb lawn mor hawdd a hynny heb wneud mwy na galw'r gair eurych yn dyst—gof aur a thincer anifeiliaid. Meddai cyfraith Hywel "teir kelvydyt ny dely mab tayawc eu dyscu...yscolectawd a govanaeth a bardony" ond, ai gwaith gof yw "gofanaeth" mewn gair felly? A phaham y defnyddir "gofaeth" am waith Tubal Cain gynt? Ym memrwn hynaf cyfreithiau Hywel Dda Lls. Peniarth, 28 ceir llun gof wrth ei waith o flaen yr eingion, ond nid gwisg gwr boneddig sydd am dano yno. Efe yw'r unig un sydd yn gwisgo cap Phrygia am ei ben, ac yn y xii ganrif yr iselradd oedd yn gwisgo felly. [Gwel Weiss, Kostümkunde, 11, 565.]

Yn Llyfr Tal. 7, 15, ceir "digawn gofal y gofangordd." Dywed Syr J. Morris—Jones (Taliesin, 107) fod y llinell mor oleu a'r dydd, ac mai'r ystyr yw "sufficient care to the smith his hammer." Yn Cerdd Dafod, td. 133, fel hyn y ceir y