Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llinell "digawn gofal gofann i ordd" ond torri pen i wella'r bendro yw hynny. Llinell mewn awdl o'r enw "Buarth y beirdd" ydyw'r linell, a thalai'r awdl hon yn dda gael ei ysgythru bob gair ohoni mewn aur coeth, oblegyd son y mae am feirdd a'u crefft a hynny yn iaith y beirdd eu hunain. Gwelodd Syr John yn rhy ddiweddar nad oedd "gordd" hammer i gael yn oes Llyfr Taliesin. Ni ymholodd beth oedd "gordd" yma, oblegyd gwelsai "gofan" yn y llinell, a rhaid mai hen ffurf ar y gair "gof" oedd "gofan." Boed felly: nid "gordd" na "ordd" oedd gan y "gofan" ond "cordd." Yr oedd gan y brenin ei "osgordd" o ddegarhugain yn ol Llyfr Du'r Waun, 3. 15, ond deuddeg yw "gosgordd" o englynion a chwech oedd "gosgordd" prydydd. Dywed yr Auraicept yn ofalus pa sawl un sydd i fod yng ngosgordd y gwahanol raddau o feirdd y Gwyddyl.

Yn ol Zeuss, td. 1062, ceir casgoord gynt yn gyfystyr a satellites (retinue) gwyr Rhufain, ac er bod y gair yn gwamalu rhwng "gordd" a "cordd" y mae'r ystyr yn ddigon amlwg yng Nghymraeg y canol oesoedd. Ceir "gofan" hefyd lawer gwaith gan yr hen feirdd am fardd o ryw radd neu gilydd (RBP. 11, 221, 276):

"Neu uartwawd arouan a uo kert ny uo cart yny rann
Peryerin yg govur yg gouan vyg gwawd" (RBP. 11, 223, 15)

"Y ueirt dwfyn dyfryd a gofyein" (RBP. 11, 210, 93).

Ceir "cordd" a "gordd" am nifer o wyr neu anifeiliaid gydai gilydd. Trefnid dilynwyr gwahanol raddau beirdd y Gwyddyl yn ofalus iawn gwel Auraicept, td. xx. A dilys ddigon fod yr un peth yn wir am Gymru, oblegyd dywedir pa sawl disgybl sydd i ddilyn y gwahanol athrawon yn ol Ystadud Gruffydd, a Chadair Tir Iarll.

Ceir gwelygordd a phreiddordd, a "cordd" neu "gordd" felly geir yn RBP. 1, 1398, 5:

"Nyt casgerd cosgor dyssilyaw." (Ceir y lliosog "cyrdd"
"Gwae vyrd gwae gyrd gerd lochi." RBP. 1, 112, 34.)