Gair y beirdd yw "gofan" a "cordd" bob tro yma. Bardd oedd y "gofan" ai ddilynnwyr neu ei ysgol oedd y "cordd." Felly yn lle "sufficient care to the smith his hammer" darllener "sufficient care to the poet his school." Awdl am y beirdd ydyw yr awdl hon, a hanes trefn y beirdd geir ynddi yn hytrach na hanes gofaint mewn efail.
Felly dyna "gofydd," "ofydd," "gofiaeth," "cynnelw," "cerddawr," "gwneuthuriawdr," goba, maker, poeta, ag amryw eraill yn golygu "crewr" a "bardd" a rhaid bod yr syniad am y bardd fel crewr neu "gwneuthuriawdr" yn hysbys ddigon gan bawb yn y canoloesoedd ac wedi byw yn hir yng Nghymru fel yn Lloeger. Y mae'r "ofydd" felly yn un o'r rhai sicraf ei achau yn nhrefn beirdd Cymru.
Y PRYDYDD
Paham y bydd y "prydydd" weithiau o flaen y bardd, a phryd arall wrth ei ysgil? Pwy oedd y "prydydd" ac o ba le y daeth? Ni sonir yn unlle fod gwyr llygadog Groeg a Rhufain yn adnabod neb wrth yr enw hwn nag enw tebyg iddo, ac ni welsom ychwaith fod neb wedi gweld ei frawd ag enw tebyg arno yn yr Iwerddon.
Ceir, o leiaf, ddau gynyg ar ddadgymalu'r gair: dywed Stokes yn Urk. Spr. 60, mai brawd i'r gair peri (to cause) ydyw'r gair "prydydd." Dywed hefyd ei fod yn perthyn i'r Lladin creare (creu), ac yn gyfystyr felly a poeta. Tebyg mai hynny barodd i'r Athro T. Gwynn Jones alw "prydydd" yn "Maker of Verse" yn Bardism, 106.
Yn ol Dr Pedersen, 1, 128, yr un yw "prydydd" y Cymro, a creth (poesie) y Gwyddel, a brawd i peri felly, fel y dywedodd Stokes uchod. Dywed Pedersen hefyd nad yw creth (poesie), onid ffurf o crenaim (Cymraeg, "prynaf") os felly nid brawd i "prydydd," ond brawd i "prid" dear ydyw, ac y mae hynny yn rhoi gwedd wahanol iawn ar bethau. Dibynnu ar y Geiriaduron, wrth reswm, wnaethai Stokes a Pedersen; ond nid oedd y rhai hynny wedi lloffa ffurfiau'r geiriau, heb son am eu dyrnu a'u nithio. Gair dauwynebog iawn yw