Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"prydydd," a thwyllodd hynny lawer. Ymddengys weithiau fel "brydydd" ond fynychaf fel "prydydd." I wneud y drwg yn waeth, y mae "bryd" y "brydydd" yn ymddangos fel "bryd" a "brud," a haws ysgar cawnen a'i chysgod na datod y "bryd" y "pryd" a'r "brud" hyn oddiwrth ei gilydd. Heblaw hyn oll, cofier nad yw y "pryd" form geir yn "wynepryd" a "prid" (costly) yn arddel yr un berthynas a'r "bryd," "pryd" a'r "brud" uchod. Y mae peth tebyg wedi digwydd yn hanes "Brydain" a "Prydain," "pobl" a "bobl," "Beibl" a "Peibl," etc.

Y mae'n ddilys gennyfi mae'r hen ffurf oedd "brydydd" ac nid "prydydd," ac mai gwraidd y gair yw'r gair adnabyddus "bryd" (judgement, mind). Cofier, mai traddodiad llys gwlad sydd y tu ol i Orsedd Y Beirdd: aeth hyn dros gof y beirdd eu hunain, ac ni ddaeth hynny i gof eu beirniaid. Yn oes Conchobar Mac Nessa—beirdd yr Iwerddon, a hwy yn unig, oedd a gofal cyfraith a llys arnynt. Ceir Dubhthachpen beirdd y brenin, yn brif ynad yn y llys, ag yn cyhoeddu'r ddedfryd yno yn ol Senchus Mor, I, td. VII, IX—X. Ceir digon o Gymry heddyw wedi dysgu'r Deng Air Deddf ar gan—trosodd y beirdd gynt ddarnau mawr o'r Beibl felly i'r werin i'w gofio yn haws. Felly hefyd y gwnai beirdd yr Iwerddon a chyfraith y wlad, a cheir tameidiau felly ar glawr yn hen lyfrau cyfraith y Gwyddyl (gwel Senchus Mor, I, XIV—V, XL—XLI). Felly yn union yr oedd pethau yng Nghymru, a cheir gweld fod yna sawl gradd o swyddogion llys yn feirdd o ryw urdd neu gilydd ag enwau'r swyddogion hynn wedi eu seilio ar y gair "bryd" welir yn "brydydd." Fel hyn y dywed Sefnyn (o.c. 1320—1370); RBP. 1, 1263, 7:

"Goreu ffuryf brodyeu gan ffyryf brydydd"

"brudyeu" geir yma gan D.S.E. o'r Myv. Arch., ond "brodiau" ydyw yn yr ail argraffiad o'r Myv. td. 333. Fel hyn y dywed Gr. Vab Llywelyn, RBP. 1, 1257, 15:

"Vy ffalst gyfreith yny brytyeith yny brotyeu"