yn Llyfr Du Caer. 78, ceir bardd yn annerch llys gwlad fel bardd ag fel ynad:
"Gostecwir llis gosteguch. Gostec beirt bart a glywuch ... Teernweilch Pridein prydaw ych priwgert...ych bart ych beirnad vytaw."
Ni allai dim fod yn fwy pendant—llys cyfraith a'r prifardd yn ynad ac yn cyhoeddu dedfryd yno. Dyna un rheswm mawr paham mai dim ond y bardd a'r ynad elwir yn wyr cadeiriog o holl swyddogion y brenin yn hen ystyr briodol y gair, oblegyd cam diweddar yw tybied mai ystyr "bardd cadeiriol" yw bardd a chadair ganddo wrth ford y brenin. Yr oedd gan yr hebogydd a'r gof ag eraill "gadeiriau" felly, ond ni chlywir byth am "hebogydd cadeiriawg." Ond heblaw "prydu" neu "brydu brodyau," ceir y beirdd yn "brydu gwawd" hefyd. Fel hyn y dywedir yn RBP. II, 177, 11: "Pe dawant anant na frydant wawd"
Prydu er hynny yw'r ffurf gyffredin am ganu, oblegyd, wedi gwahanu swydd y bardd a'r ynad llys, rhaid newid enw eu gwaith er bod y ddau yn glynu wrth yr hen air o hyd. Cadwodd yr ynad y ffurf "brydu" a cheir ef yn "dedfrydu" hyd heddyw. Trodd y bardd ei air yntau i "prydu," ond ceir "brydydd" a "brydest" yn ogystal a "prydydd" a "prydest" am amser hir. Hyd heddiw "efrydydd" yw'r disgybl—boed ddisgybl bardd, neu ddisgybl o'r gyfraith.
Y mae yn ddilys gennym felly, mai yr un gair yw "brydydd" a "prydydd," ac y mae yn ddigon amlwg paham yr holltodd yr hen air yn ddau. Digwyddodd yr un peth yn union yn yr Iwerddon fel y ceir sylwi nol llaw. Ond, atolwg, beth yw perthynas y gair "bryd" a "brud" divination? Yn ol Anwyl ystyr "brud" yw chronicle, divination, ond pa fodd y cafodd yr un gair ddwy ystyr mor bell oddiwrth ei gilydd? Sonia Iolo Goch, td. 19. 22, am "brudfardd" a dywed Llyfr Tal. 19. 22, "ryphrydaf y iawn llin." Iolo Goch ei hun yw'r "brudfardd" ond odid, a Thaliesin sydd i "brydu iawn