Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llin" neu wneud brut cywir. Yn Reports, 1, 943, cyfeirir at Ramadeg Einion Offeiriad fel "Llyfr Cerddwriaeth ne'r Prydlyfr"; a geilw Iolo Goch, 94, 4, lyfr gwasanaeth yr eglwys yn "Prydlyfr Offerenlyfr Ffydd." Ceir ganddo hefyd "prydlyfr i bob per odlau" am y pencerdd, 48, 46. Gelwir "Brut y Tywysogion" yn "Pryd Tywysogion Cymru" yn Lls. Llanst. Yn Arch. Lhuyd, 256 c, 257, ceir "bryd neu amseroliaeth byrr," a "bryt y tywyssogion." Yn Juvencus, 406, dywedir fod "brut" yn gyfystyr a'r Lladin animus. Yr esboniad cyffredin yw mai "brwd" (zealous) yw'r gair (gwel Loth, Vocab. V. Bret. 60). Y mae hynny yn anhebyg iawn gennyf i am amryw resymau ac y mae brut brud, bryd (mind, opinion) yn ei daro i'r dim. Yn hytrach gwell gennyf gredu mai "brud" uchod ydyw h.y. y gair ysgrifennir yn awr "bryd" (mind). Y mae'n amlwg iawn ddarfod cymysgu. "bryd," "brud," a "pryd"; a bod y cymysg hwnnw wedi dechreu yn gynar yn y Canoloesoedd.

Gwelir hyn yn amlwg mewn cyfnod diweddarach yn y gair "cywydd brud" ac "awdl frud." Pethau diweddar yw y rhai hyn, ac oes y Tuduriaid ac wedi hynny, oedd oes eu bri mawr. Edrychir ar y "cywydd brud" fel rhyw fath of ddarogan. Gwir fod rhai o honynt yn darogan am yr "haf hirfelyn" ond nid darogan yw eu nod bennaf ychwaith. Onid wyf ar gam, enw arall ar "prydest" yw "Cywydd neu Awdl Frud." Can prydydd oedd "prydest," ond aeth hynny yn angof, ac aeth "prydest" yn "pryddest" ond aeth mor fore hefyd a Llyfr Tal. 7, 14. Meddai RBP. 1, 1168, 31:

"Kyva vyd yr prydyd ae pryt. Prydest loew pryder dihewyt."
"Prydestawt or drindawt traethu traeth uolyant teilyng(RBP. 1, 1143, 18.) dawt talu."
"Mi brydyt brydest annyanawl." (RBP. II, 162.)

"Prydest" ag nid "pryddest" yw'r gair yn y rhai hyn. Edrychir ar y gair "pryddest" fel enw ar fath o fesur unodl, ond yn ol Geiriadur Richards "can o fawl i ddyn" ydyw.