Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceir "Brut" (chronicle) yn y Saesneg hefyd ond y mae'r NED. yn methu dweyd hanes y gair. Tybia rhai mai o'r Ffrang. Brut, enw yr hen chwedl am Brutus y daeth. Odid na adawodd hynny ol ar ystyr y gair, ond anodd iawn credu mai o'r fan honno y tarddodd y gair Cymraeg, a rhaid ail ystyried y ddadl geir am y gair Brut yn rhagymadrodd Dr Gwenogvryn Evans i Red Book of Hergest, vol. II. Gwyr pawb fod "dewin" a "derwydd" yn hen enw cyffredin ar fardd gynt, ond daeth amser pan oedd hynny yn anghyson a chrefydd, a rhaid oedd newid yr enw. Fel y gwelsom pethau cyndyn iawn yw hen enwau ac y mae" brud" wedi cadw un wedd ar yr hen enw, a "bryd" a "pryd" wedi cadw'r llall. Y mae'r "brydydd" mor amlwg a neb yn hanes yr Iwerddon ai enw yno yw Brethemon, ynad neu farnwr neu frawdwr. Yr oedd y prydydd a'r brawdwr yn un yn yr Iwerddon fel yng Nghymru, ond yn yr Iwerddon pan aeth y prif feirdd i gynhenna am yr olyniaeth i'r swydd, cadwodd y brawdwr y swydd a'r enw yno. Y bardd etifeddod yr enw "brydydd" yng Nghymru, ond bu raid ei newid bob yn dipyn yn prydydd. Y mae "prydydd" y Cymro felly, yn cadw un hanner yr hen swydd a Brethemon y Gwyddel yn cadw yr hanner arall.

BREGYWRYD

Dywedasom fod sawl urdd neu ddosbarth o feirdd neu swyddogion cyfraith a'u henw wedi tarddu o'r gair "bryd" uchod. Heblaw'r "brydydd" ceir "bregywryd" a "cywryd" o leiaf. Os sylwir yn fanwl ar hen draddodiadau Cymru, y mae'r gwyr hyn yn amlwg ddigon yn y gwŷdd wrth wau hanes ein hen sefydliadau, ac y maent yn ddigon amlwg eto. Gan mai'r "brydydd" oedd fwyaf amlwg a hawdd ei adnabod, sylwasom arno ef yn gyntaf, ond y "bregywryd" yw'r pennaf er hynny, ac efe oedd tywysog y brydyddion gynt. Panyw Iwl Caisar (Gall. War, I, XVI, 5), yn adrodd hanes ei frwydrau a'r Celtiaid dewr hynny, yr Aedui, dywed fod ganddynt ddau brif swyddog yn gyfrifol am ddeddf y wlad. Enw swyddogol y ddau ganddo yw Vergobretos, a dewisid y