swyddogion o'r newydd bob blwyddyn. Ceir yr enw hefyd fel Bercobretos ar arian bathol. Cofier nad gair y Rhufeiniwr ei hun ydyw, ond gair y Celt fel yr oed y Rhufeiniwr yn ei glywed. Dadgymalodd Glück y gair Vercobret yn ei ysgriflyfr yn llyfrgell Munich, Lls. 5166 a rhannodd ef i vergo+bretos. Yr un gair yw'r bretos, medd efe, a'r gair Cymraeg "brawd" (judgement); a'r un yw'r vergo a'r hen air Cymraeg guerg (celfydd) (gwel Zeuss, td. 1053, 56). Yn ol Zeuss, td. 11, yr un yw'r guerg hyn a fairggae—hen enw ar For Iwerydd. Bu Rhŷs yn chwalu vergobretos hefyd yn Celtic Britain, arg. 2, td. 59, 313. Yno dengys Rhŷs mai "bryd" ag nid "brawd" sy'n cyfateb i'r bretos uchod, a thrinia Dr Rice Holmes Rhŷs a'r vercobretos yn fanwl yn Ceasar's Conquest of Gaul, td. 517—9. Casglodd Dr Holder y pethau pwysicaf at ei gilydd am y gair yn ei Altcelt. Spr. ond tebyg i farn Glück a Rhŷs yw yr eiddo yntau, sef mai ystyr y gair ei hun yw plenipotentiary neu supreme judge. Fel y dengys Dr Rice Holmes, y mae yn anodd iawn gwybod pa un a oedd dau vercobret neu un; ond y mae yn amlwg os mai un vercobret oedd gan yr Aedui ei fod yn un o ddau brifswyddog, a hynny sydd yn bwysig gennym ni yma. Ceir peth tebyg yn hanes yr Iwerddon hefyd, lle yr oedd dau brif dderwydd (gwel Rev. Celt. XLIII, 299). Yn awr, os rhennir y gair yn ver+co+bret yn lle verco+bret daw ei ystyr i'r golwg. Y mae bretos yn ateb i "bryd"(judgement) a co+bretos yn ateb i "cowryd," "cywryd." Cofier fod br a bl rhwng dwy lafariad yn newid weithiau i wr a wl yn hytrach nag i fr a fl. Gwelir hyn yn "diowryd" a "diofryd"; "towlu" a "taflu." Fel rheol, bydd ver ar ddechreu geiriau Lladin a hen eiriau'r Celt ei hun yn troi yn gwr yny Gymraeg. Casglodd Glück lu mawr o eiriau felly yn ei Kelt. Nam. td. 167—88. Fel y dywedwyd, nid gair Lladin yw vercobret ond ffurf Lladin ar hen air y Celt, a cheir amryw felly lle y mae vab yn newid ai gilydd. Yn Vict. County Hist. Cheshire, 1, td. 220, ceir sylw treiddgar iawn ar ver mewn enwau lleoedd ym Mhrydain ag ar y cyfandir gan y diweddar
Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/49
Gwedd