Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athro Haverfield. Yn ol hyn, ymddengys yr un gair wedi ei ysgrifennu yn vir, vri, viro, a bro; a cheir ef yn vricon neu vrecon hen enw'r wlad elwir heddyw yn Wreckin. Os yw hynn yn ddien, byddai dyn lawn mor debyg o gael bre, bry neu ber, byr mewn gair Cymraeg wedi disgyn o vercobret. Felly y bu mi goeliaf, ac os nad wyf ar gam enw Cymru ar y vercobret, bercobret yw "bregywryd." Nid yw'r gair yn adnabyddus iawn yn y wedd hon arno, ond nid yw "bregywryd" namyn un o lawer o ffurfiau. Y ffurf gyffredin ar "bregywryd" yw "blegywryd," ac adnebydd pawb yr enw hwn, oblegyd ei waith ef oedd hanes, cywydd a cyfraith; ac yr oedd efe yn gampwr ar bob offeryn cerdd ym Mhrydain gynt. (Ceir ychwaneg o oleuni ar beth eill ddigwydd i vri ar ddechreu geiriau fel yr uchod yn esboniad Stokes ar yr hen air vritu yn Celt. Decl. 158.)

Edrychir ar "Blegywryd" bob amser fel enw priod, ac yn ddiau ceir ef droion fel enw priod fel yn Llyfr Lland. 222.

Cofir, yn ddiau, y fath drafferth barodd Blegywryd i ysgolheigion, a'r fath hela fu arno gan dair oes ar ddau gyfandir. Nid oes modd gwneud ychwaneg yma na braidd gyffwrdd a'r pwnc. Y Blegywryd enwocaf, a sail y rhan fwyaf o'r dyfalu, yw gwr o'r enw Bledhericus y cyfeiria Gerallt Gymro ato fel y fabulator enwog oedd yn byw ryw gymaint o flaen Gerallt ei hun. Cyn mynd ymhellach dylid dweyd fod ffurfiau yr enw yn amlach na ffurfiau Taliesin ei hun. O dro i dro ceir yr enwau hyn, a dywedir gan y rhai fu yn eu trin mai ffurfiau ar Blegywryd ydynt oll er mor anhebyg ydyw amryw ohonynt: Bledcuurit, Bledcewred, Bledkenred, Bledhericus, Blegywryd, Bledhgwryd, Blygwryd, Blangoridus, Blaugoridus, Bledri, Blegabres, Bleheris, Bleobleheris, Bliobleheri, Blios Bliheris, Bleheris, Blarados, Bledgabreat, Blaise, Bregored, Bredgabred, Brewgawryd, Langordus, Beroul (?), etc., etc. Fabulator oedd Bledhericus Gerallt, eithr brenin oedd Blegabredus Sieffre o Fynwy a hwnnw yn byw yn fore iawn; ond yr oedd yn frenin mor gerddgar nes ei alw yn Deus joculatorum. Fel hyn y dywed