y Brut Cymraeg am dano: "ac ny bu yn yr oessoedd kywydwr kystal a ef, Blegywryt a rac daet y kanei y gelwit Duw y gwaryeu," Red Book, II, 82, 3. Ceir cyfeiriadau lawer at rywun yn dwyn yr enw hwn, ond er bod yr hanes a'r amser a'r wlad lle y ceir ef yn newid, yr un yw ei gymeriad o hyd. Casglodd Mr E. Phillimore lawer am Blegywryd yn Owen's Pembr. III, 212—5. Ychwanegodd Mr Ed. Owen at hynny yn Rev. Celt. XXXII, 6 sqq. lle y ceir Blegywryd yn awdwr darn o'r Brut. Chwalodd Dr J. E. Lloyd dipyn ar y niwl yn y Cymmrodor, 1889—90, ac yn Hist. of Wales, I, td. 340—1. Y mae gan Gaston Paris beth diddorol tuhwnt am ryw Breri yn Romania, VIII (1879), 425-6. Yno sonir am ryw fardd Thomas o Brydain Fawr neu Brydain Fechan yn cyfeirio at y Breri hwn fel yr awdurdod ar hanes Tristan ag Esyllt. Y mae Gottfried o Strassburg (dechreu y bedwaredd ganrif ar ddeg) yn cydnabod ei ddyled i'r Thomas hwn. Cyfeiria Gautier de Denain, un o'r rhai ychwanegodd at waith Chrétien de Troyes at ryw fardd o'r enw Bleheris o Gymru fel ei awdurdod ef am Hanes Gawain. Cyfeirir at wr o'r enw Blaise yn Percival, Didot fel athro Merlin, ac fel yr unig wir awdurdod ar hanes y Greal Santaidd. Ysgrifennai Thomas tua o.c. 1170, ac wrth son am chwedlau Tristan dywed: wrth fel y clywais i, nid yw awduron y chwedlau hyn yn eu hadrodd yn ol Breri, a gwyr y Breri hwn am bob Brut a Mabinogi am bob brenin a thywysog a fu erioed ym Mhrydain. Yn Speculum, 1928, td. 33, dywed yr athro Loomis fod modd profi i ryw Gymro o'r enw Bleheris fod a llaw flaen i ddwyn Mabinogi Tristan i lys Poitou (gwel hefyd, Mod. Lang. Notes, XXXIX (1924), td. 320; Romania, LII (1927), td. 82). Y pethau goreu gennyfi yw yr hyn ddywed Dr Jesse Weston ar y Bleheris Gymro yn Rev. Celt. XXXII, td. 5 sqq.; Perceval, 1, XII, td. 288; Romania, XXXII, td. 333; Quest of the Grail, td. 31; Paton, Merlin, II, 302, 342 oblegyd gwelodd Dr Weston y gallai mai nid enw priod oedd yr enw hwn ar ol iddi ddarllen yr hyn ddywedasai Mr Ed. Owen yn Rev. Celt. xXXII. Y mae'r enw a'r cymeriad yn hysbys
Tudalen:Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu.djvu/51
Gwedd